Datganiad ar gyhoeddiad ysgolion Llywodraeth Cymru

16 Rhagfyr 2021

Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 16 Rhagfyr yn ymwneud ag ysgolion, dywedodd Yr Athro Sally Holland:

“Rydw i’n credu bod cyhoeddiad heddiw yn gam cymesurol mewn sefyllfa sy’n symud mor gyflym. Mae e’n rhoi cyfle i arweinwyr ysgol, sydd wedi gweithio mor galed mewn sefyllfa mor anodd i feithrin ein plant a chynnal lleoedd addysg diogel, amser yn y flwyddyn newydd i asesu argaeledd staff a’r sefyllfa fydd ohoni. Yn dyngedfenol i fi, mi ddylsai olygu bod plant a phobl ifanc yn dechrau’r tymor newydd gyda eglurder a bod yr amhariaeth ar eu dysgu a’u lles yn cael ei gyfyngu. Mae’n rhaid nodi petasai’r amser hyn ddim yn cael ei roi i ysgolion, mae’n bosibl y byddai’r amhariaeth ar blant a’u teuluoedd cymaint mwy.

“Drwy gydol tymor yr hydref, mae yna bryderon mawr wedi codi ynghylch yr angen i gefnogi disgyblion sy’n eistedd arholiadau. Dwi’n bles gweld mwy o gefnogaeth yn cael ei ddarparu heddiw fel ymateb i’r amhariaeth sylweddol sy’n digwydd – mae’n hanfodol bod disgyblion yn ymwybodol bod opsiynau ganddyn nhw a chefnogaeth ar gael, a bod y pecyn o gymorth yma yn eu cyrraedd heb unrhyw oedi.

“Does dim llawer o atebion hawdd ar gael ond dwi’n parhau i wasgu ar y Gweinidog Addysg a’i dîm i ystyried ystod hawliau ac anghenion plant wrth iddyn nhw wneud y penderfyniadau anodd.”