Comisiynydd Plant yn rhybuddio bod dim lleoedd addas i bobl ifanc mewn argyfwng iechyd meddwl

5 Hydref 2021

Mae angen safleoedd ‘noddfa’ yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc sy’n profi argyfwng iechyd meddwl, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd y Comisiynydd Plant nad oes unrhyw le addas i bobl ifanc droi pan fyddan nhw’n wynebu argyfwng iechyd meddwl. Yr unig opsiwn i’r rhai sydd mewn perygl o ddioddef niwed uniongyrchol yw mynd i adran Damweiniau ac Achosion Brys neu ffonio 999. Mae’r broblem hon ar ei gwaethaf gyda’r hwyr ac ar y penwythnos, pan na fydd timau iechyd meddwl cymunedol ar gael fel arfer.

Ar hyn o bryd nid oes canolfannau argyfwng iechyd meddwl penodol i bobl ifanc yng Nghymru.

Mae canolfan argyfwng i oedolion wedi agor yn ddiweddar yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe.

‘Chwalfa yng nghanol yr ystafell aros’

Mae ei hadroddiad blynyddol, a gyhoeddwyd heddiw (5 Hydref), yn manylu ar brofiadau person ifanc a brofodd argyfwng iechyd meddwl

(Dyfyniad o’r adroddiad) Ysgrifennodd person ifanc 16 oed at y Comisiynydd i rannu eu stori am brofi argyfwng iechyd meddwl. Roedd y person ifanc wedi dilyn cyngor a roddwyd, a mynd i’r adran Damweiniau ac Achosion Brys. Yna cawson nhw eu hanfon ymlaen i’r uned achosion brys oedolion. Ar ôl 2 awr, cafodd y person ifanc wasanaeth brysbennu, a dywedwyd y gallen nhw fynd adre. Fe wrthododd y person ifanc wneud hynny, achos doedden nhw ddim yn teimlo’n ddiogel. Dywedwyd wrth y person ifanc am aros tan y bore i weld gweithiwr proffesiynol. Pan oedden nhw yn yr ystafell aros dros nos, fe welodd y person ifanc yr heddlu’n atal oedolion gwryw, a hefyd oedolyn yn achosi difrod i’r adeilad. Yna cafodd y person ifanc chwalfa yng nghanol yr ystafell aros.

Fe ddywedodd y person ifanc wrthyn ni eu bod nhw’n credu y dylai fod rhywle y gall arddegwyr fynd mewn argyfwng, heblaw lleoliad Damweiniau ac Achosion Brys oedolion.

‘Dim dewis’ heblaw’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu ffonio’r heddlu

Dywedodd y Comisiynydd Plant fod y stori’n amlygu bwlch yn y ddarpariaeth yng Nghymru, a nododd fod nifer o bobl ifanc eraill a’u teuluoedd hefyd wedi rhannu profiadau tebyg gyda’i swyddfa.

“Ar hyn o bryd yng Nghymru, os bydd person ifanc yn cael argyfwng iechyd meddwl, does ganddyn nhw unman addas i fynd i gael y gefnogaeth angenrheidiol. Fel mae’r achos yn ein hadroddiad yn dangos, bydd llawer ohonyn nhw’n mynd i’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys neu’n deialu 999 oherwydd bod dim dewis arall ganddyn nhw. Os ydyn nhw’n 16 oed neu’n hŷn bydd rhaid iddyn nhw aros gyda’r oedolion yn ystafell aros yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys.

“Mae’n bwysig dweud, pan fydd pobl ifanc yn mynd i Adran Damweiniau ac Achosion Brys, y byddan nhw’n cael cefnogaeth gweithwyr proffesiynol. Ond mae’n rhaid i ni ystyried yr amgylchedd mae’r bobl ifanc hynny’n cael eu hunain ynddo.

“Bydd gan lawer ohonon ni brofiad o adran Damweiniau ac Achosion Brys oedolion. Yn y nos ac ar y penwythnos maen nhw’n gallu bod yn brysur iawn gydag oedolion trallodus sy’n aml dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau. Er gwaethaf ymdrechion gorau staff gofal iechyd, yn aml dydyn nhw ddim yn lleoedd digynnwrf, sy’n tawelu’r meddwl, nac yn fannau y byddech chi eisiau i berson ifanc oedd yn profi argyfwng iechyd meddwl fynd iddyn nhw am gefnogaeth.

“Mae pawb rwy’n clywed ganddyn nhw am y mater yma: pobl ifanc, rhieni, clinigwyr – i gyd eisiau rhywle addas i bobl ifanc fynd i gael yr help yma pan fydd cymaint o’i angen arnyn nhw. Mae angen rhywle hygyrch, tawel a chroesawgar sy’n cynnig help bob awr o’r dydd a’r nos. Mae angen noddfa arnyn nhw lle gallan nhw gael yr help angenrheidiol ar unwaith.

“Bydden nhw’n gallu helpu’r person ifanc trwy drallod eu sefyllfa ar y pryd mewn lleoliad addas, ac yna cyfeirio’r person ifanc ymlaen at y gefnogaeth hirdymor arbenigol gywir.”

‘Dim drws anghywir’ at ofal iechyd meddwl

Defnyddiodd y Comisiynydd Plant ei hadroddiad blynyddol hefyd i ailadrodd ei galwadau tymor hir am sicrhau bod gofal iechyd meddwl plant a phobl ifanc yn haws cael mynediad iddo, a darparu help sy’n ymateb i anghenion unigol plant.

Dywedodd fod disgwyl yn rhy aml i blant a phobl ifanc ffitio i lwybrau anhyblyg sydd ddim bob amser yn gweithio iddyn nhw, ac wynebu amserau aros hir.

Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol (BPRhau) (partneriaethau lleol rhwng byrddau iechyd, awdurdodau lleol a’r trydydd sector) sy’n gyfrifol am gynllunio gofal cymdeithasol a iechyd cydlynus sydd ar gael i’r boblogaeth leol.

Ychwanegodd yr Athro Holland:

“Rhaid mai’r targed i Gymru yw system sy’n rhoi’r help a’r gefnogaeth angenrheidiol i blant, pryd bynnag mae angen hynny arnyn nhw, a ble bynnag maen nhw ar eu taith iechyd meddwl.

“Ar ris isaf yr ysgol mae hynny’n golygu ymyriadau cynnar effeithiol i fynd i’r afael â phroblemau cyn iddyn nhw waethygu; ar y gris uchaf mae’n golygu mannau diogel i fynd iddyn nhw pan fydd plentyn yn wynebu argyfwng gwirioneddol. Yn y canol, mae ar blant angen cymorth wedi’i deilwra gan ystod eang o weithwyr proffesiynol, lle mae eu hanghenion penodol nhw yn cael eu trafod a’u taclo; yn hytrach na’u bod nhw’n cael eu hanfon ar hyd llwybr na fydd o reidrwydd yn addas ar gyfer eu hanghenion.

“Ddylai’r ffordd i gael yr help yma ddim bod yn anodd iddyn nhw, fel y mae yn aml nawr. Dylen nhw fedru cael atgyfeiriad i’r help yma o amrywiaeth o ffynonellau, o’u meddyg teulu i’r ysgol, fel bod Dim Drws Anghywir i mewn i’r help mae arnyn nhw ei angen.

“Rydyn ni wedi gweld pethau positif iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Bellach mae dyletswydd statudol ar ysgolion i ddefnyddio dull ysgol gyfan o ymdrin â iechyd meddwl a llesiant, gyda help gwasanaethau eraill. Mae sawl rhanbarth yn dod â’u gwasanaethau at ei gilydd i ddarparu llwybrau cliriach at gefnogaeth. Rwy’n falch o weld bod gwella gofal i blant ag anghenion cymhleth bellach ar agenda pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a bod ymrwymiad cyffredinol i’r dull gweithredu Dim Drws Anghywir ar draws Cymru.

“Fodd bynnag, nid oes gan unrhyw ranbarth eto ddewis yn lle’r Adran Damweiniau ac Achosion Brys, i fod yn noddfa i bobl ifanc yng nghanol argyfwng iechyd meddwl. Mae hwn yn faes y mae angen ei ddatblygu ar frys.

Yr hyn rwy’n gofyn i’r BPRhau a Llywodraeth Cymru ei wneud yw troi bwriadau positif a rhai cynlluniau cychwynnol addawol yn gamau gweithredu pendant, gyda chefnogaeth cyllid cynaliadwy, a fydd yn cyflwyno ymateb di-fwlch ar sail anghenion i blant a phobl ifanc sydd mewn trallod. Mae’r pandemig yn golygu ei fod yn bwysicach nag erioed ein bod ni’n gwneud hyn yn iawn i blant.”

Galwadau eraill

Gwnaeth y Comisiynydd Plant sawl argymhelliad arall i Lywodraeth Cymru yn ei hadroddiad, gan gynnwys:

  • Cyhoeddi cynlluniau pendant i ddileu elw o ofal cymdeithasol plant
  • Parhau â chyllid y tu hwnt i fis Mawrth nesaf ar gyfer rhaglen genedlaethol T4CYP, fel bod modd gwneud cynnydd ar gefnogi plant niwroamrywiol a’u teuluoedd.
  • Cyflwyno deddfwriaeth newydd ar frys i sicrhau bod cyfrif am bob plentyn sy’n cael addysg gartref, eu bod nhw’n derbyn addysg addas a’u hawliau dynol eraill, a’u bod nhw’n cael cyfle i gael eu gweld a chael gwrando ar eubarn
  • Cyflwyno cyfraith newydd yn fuan i sicrhau bod rhaid i bob gweithiwr proffesiynol ym maes addysg plant gael eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg

Gwaith y Comisiynydd

Amlygodd y Comisiynydd flwyddyn ei swyddfa mewn rhifau, yn ogystal â chyflawniadau pwysig eraill:

  • Ymgysylltu’n bersonol ag o leiaf 694 o blant a phobl ifanc ar draws Cymru mewn digwyddiadau ar-lein, gweithdai a chyfarfodydd
  • Casglu barn 44,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru trwy arolygon ‘Coronafeirws a Ni’
  • Casglu barn 167 o benaethiaid ysgolion a cholegau ar gynhwysiad digidol yn ystod un wythnos ym mis Ionawr
  • Cynnal gwersi hawliau plant ar-lein ar gyfer 864 o blant a phobl ifanc
  • Sicrhau bron 10,000 o bleidleisiau yn etholiad Senedd paralel cyntaf y wlad i bobl ifanc 11-15 oed
  • Cynnal sesiynau hyfforddi ar hawliau plant i fwy na 800 o gyfranogwyr
  • Ymateb i 30 o leiaf o ymgyngoriadau’r Senedd, Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill, gan greu newid amlwg mewn sawl polisi a darn o ddeddfwriaeth newydd
  • Rheoli 663 o achosion trwy eu gwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor

Cyflawniadau Pwysig

Ymhlith cyflawniadau pwysig 1 Ebrill 2020 – 31 Mawrth 2021 mae:

  • Chwarae rôl bwysig wrth gasglu data gan blant a phobl ifanc yn ystod y pandemig: Dau arolwg Coronafeirws a Fi, adroddiad diwrnod gwrando ac arolwg ac adroddiad cynhwysiad digidol.
  • Dylanwadu ar ystod eang o fesurau, gan gynnwys plant yn dychwelyd i’r ysgol, newidiadau i drefniadau cymwysterau a galluogi plant mewn gofal i gael cysylltiad â’u teuluoedd.
  • Creu a chynnal hwb gwybodaeth gyda gwybodaeth gywir, gyfredol a hygyrch am y pandemig.
  • Cynnal adolygiad ffurfiol cyntaf y swyddfa o sut bu Llywodraeth Cymru yn ymarfer ei swyddogaethau.
  • ‘Blociau Adeiladu’: Mae’r adroddiad hwn yn amlygu canfyddiadau ein hymchwiliad i waharddiadau mewn addysg Cyfnod Sylfaen (3-7 oed) ar draws Cymru, a ddatgelodd fod naw plentyn Cyfnod Sylfaen, ar gyfartaledd, wedi cael eu gwahardd fwy nag unwaith fesul awdurdod, a bod un plentyn wedi cael gwaharddiad 18 o weithiau mewn un cyfnod o flwyddyn.

Bydd adroddiad blynyddol y Comisiynydd yn cael ei drafod yn y Senedd ar 12 Hydref.

DIWEDD