Ymateb y Comisiynydd i benderfyniad y Prif Swyddogion Meddygol

13 Medi 2021

Yn ymateb i benderfyniad y Prif Swyddogion Meddygol i argymell cynnig brechiad i bobl ifanc 12 oed ac yn hŷn, dywedodd Yr Athro Sally Holland:

“Dwi’n croesawu’r ffaith fod y prif swyddogion meddygol wedi gwneud penderfyniad a bod ein prif swyddog meddygol ni wedi cadarnhau fod hawliau plant wedi chwarae rhan ganolog yn y broses o benderfynu yma yng Nghymru.

“Mae fy mhrif neges i i Lywodraeth Cymru a’r prif swyddog meddygol wedi selio ar yr angen a’r pwysigrwydd o wybodaeth syml, glir a hygyrch. Mae’r wybodaeth angen helpu plant a’u teuluoedd ddeall rhesymeg y penderfyniad, a sut maent wedi ystyried ystod o hawliau plant, gan gynnwys yr hawl i iechyd ac addysg. Mae angen i’r wybodaeth hefyd egluro’n glir buddiannau’r frechlyn yn ogystal ag unrhyw risg a unrhyw wybodaeth arall fydd angen arnyn nhw i wneud penderfyniad cytbwys.”