Comisiynwyr Plant yn y gwledydd datganoledig yn annog Llywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r gorau i amddifadu plant o’u hawl i gael safon byw sy’n ddigonol

8 Medi 2021

Heddiw (8 Medi) mae Comisiynwyr Plant Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi ailadrodd eu galwadau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddileu’r terfyn o ddau blentyn ar gyfer Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant, gan rybuddio bod y polisi’n dal yn groes i hawliau dynol plant.

Mae’r tri ohonynt hefyd wedi galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i roi’r gorau i’r syniad o ddod â’r cynnydd o £20 i ben, gan y byddai hynny’n gwaethygu’r materion tlodi mae plant yn eu hwynebu ar draws y gwledydd, ac maen nhw wedi annog rhoi blaenoriaeth i hawliau plant mewn unrhyw newidiadau pellach i Gredyd Cynhwysol.

Wrth roi tystiolaeth heddiw (ddydd Mercher, 8 Medi) i’r Pwyllgor Gwasanaethau Cyhoeddus yn Nhŷ’r Arglwyddi, tynnodd y Comisiynwyr sylw eto at y ffaith bod polisi’r terfyn dau blentyn – nad yw’n caniatáu taliadau budd-dal i drydydd plentyn na phlant dilynol a aned ar ôl mis Ebrill 2017 o dan y rhan fwyaf o amgylchiadau – yn bolisi camwahaniaethol, sy’n mynd yn groes i rwymedigaethau’r llywodraeth o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn.

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru: “Rydyn ni’n dal i bryderu’n fawr bod y polisi dau blentyn a dileu’r cynnydd o £20 yn amddifadu plant o’u hawl i dderbyn safon byw sy’n ddigonol, a bod hyn yn cyfrannu at gynyddu’r bwlch o ran lefelau tlodi rhwng teuluoedd sydd â thri o blant neu fwy ac aelwydydd llai.”

“Mae’r terfyn dau blentyn yn arbennig yn cael effaith anghymesur ar grwpiau cymdeithasol lle mae teuluoedd mwy o faint yn fwy cyffredin, fel rhai grwpiau ffydd ac ethnig lleiafrifol, a hefyd yng Ngogledd Iwerddon, lle mae teuluoedd yn fwy nag yng ngweddill y Deyrnas Unedig.”

Mae’r Comisiynwyr – Bruce Adamson yn yr Alban, Sally Holland yng Nghymru, a Koulla Yiasouma yng Ngogledd Iwerddon – yn dal i bryderu bod rheolau budd-dal y Deyrnas Unedig yn atal llywodraethau datganoledig rhag taclo tlodi plant yn llwyr.

Dywedodd y Comisiynydd Sally Holland: “Roedd tlodi plant yn y Deyrnas Unedig eisoes yn broblem hawliau dynol sylweddol, ac mae’r pandemig wedi gwneud pethau’n waeth. Mae Arbenigwr y CU ar dlodi wedi nodi’n glir mai penderfyniadau gwleidyddol sy’n achosi tlodi plant yn y Deyrnas Unedig, ac rydyn ni’n annog y Deyrnas Unedig i wyrdroi’r polisïau Credyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant, sy’n gwahaniaethu mewn modd niweidiol.”

“Mae plant yn llwglyd ac yn byw mewn tai nad ydynt yn cyrraedd y safon yn y Deyrnas Unedig yn 2021, ac mae hynny’n gywilyddus. Mae tlodi’n effeithio ar bob agwedd ar fywyd plentyn, o’u hiechyd – corfforol a meddyliol – i’w haddysg. Sut gall plentyn ganolbwyntio’n iawn yn yr ysgol a dysgu os yw’n llwglyd? Mae rhwymedigaeth at blant gan y Wladwriaeth, ac mae gan bob plentyn hawl i dderbyn safon byw sy’n ddigonol. Mae gan deuluoedd hawl i nawdd cymdeithasol. Mae’r polisïau hyn yn enghraifft glir o dorri hawliau dynol plant.”

Ym mis Mai, ysgrifennodd Comisiynwyr Plant Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon lythyr agored at y Gwir Anrhydeddus Thérèse Coffey, Ysgrifennydd Gwladol Gwaith a Phensiynau, yn galw am ddileu’r terfyn dau blentyn ar Gredyd Cynhwysol a Chredyd Treth Plant, ac am gynnal y cynnydd o £20 i symiau credyd cynhwysol.