Neges y Comisiynydd Plant ar wythnos canlyniadau

10 Awst 2021

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Dwi’n meddwl bod y ffordd y mae pobl ifanc wedi delio gyda’r 18 mis diwethaf wedi bod yn anhygoel. Dylen nhw fod yn falch iawn o bopeth maen nhw wedi ei gyflawni eleni.

“Fel cymdeithas dylen ni hefyd bod yn falch iawn o’n pobl ifanc a sut rydyn nhw wedi ymateb i’r ddwy flynedd anodd yma. Mae angen i ni sicrhau bod pobl ifanc a’u hathrawon yn hyderus ein bod ni’n gwerthfawrogi y gwaith caled mae’r cymwysterau yma yn eu cynrychioli.

“Hoffwn i ddweud diolch hefyd i athrawon ac arweinwyr ysgolion a cholegau am bopeth mae nhw wedi ei wneud i sicrhau bod eu disgyblion wedi medru derbyn eu cymwysterau eleni.
“Mae risg y bydd unrhyw ffocws negyddol ar ‘chwyddiant’ graddau yn gwrthod cydnabod y dysgu a’r profiad unigryw mae plant wedi cael eleni, a’r sgiliau ac agwedd anhygoel maen nhw wedi datblygu yn y cyfnod, tra hefyd yn anwybyddu yr anghydraddoldebau sydd wastad wedi bod yn rhan o’r system arholiadau.
“Dwi’n gobeithio byddwn ni’n gallu adeiladau ar bopeth rydyn ni wedi dysgu eleni i ddatblygu system arholiadau sy’n gwneud mwy i annog datblygiad a dysgu parhaus, ac un sy’n galluogi i bob person ifanc i symud ymlaen yn bositif gyda chyflawniadau maen nhw’n falch ohonynt.”