Ymateb y Comisiynydd i ddatganiad ysgol ym Mhen-y-Bont ar Ogwr ar gamdrin rhywiol

10 Mehefin 2021

Yn ymateb i’r stori, dywedodd Yr Athro Sally Holland:

“Mae hwn yn achos sy’n peri gofid enfawr a dwi’n cydymdeimlo’n fawr gyda’r goroeswyr. Mae rhai ohonynt wedi byw gydag effaith hyn am ddegawdau.

“Mae hi’n erchyll i glywed nad oedd arweinwyr gorffennol yr ysgol wedi gweithredu ar unrhyw bryderon a gafodd eu rhannu gan staff eraill. Mae’r archwiliad annibynnol yn nodi bod y gamdriniaeth yn barhaus ac wedi parhau wedi ymchwiliad proffil uchel ar achos arall gan gomisiynydd plant cyntaf Cymru, Ymchwiliad Clywch. Roedd gan yr ymchwiliad hwnnw debygrwydd amlwg i’r achos yma, ag arweiniwyd i fesurau diogelu cryfach o fewn ysgolion, yn cynnwys yr angen am ymchwiliad annibynnol pan mae pryderon diogelu am aelod o staff.

“Does yna ddim esgus bod neb wedi gweithredu ar y pryderon am yr athro yma. Mae’n rhaid bod plant yn teimlo’n ddiogel yn yr ysgol, a bod gyda nhw ffyrdd clir o rannu unrhyw bryderon sydd ganddynt. Mae’n rhaid hefyd bod gan staff hyder bod pobl yn mynd i wrando a gweithreu pan eu bod yn rhannu unrhyw bryderon.

“Tra bod polisïau ac ymarfer wedi gwella dros y blynyddoedd, maen nhw ond yn effeithiol os ydyn nhw’n cael eu gweithredu yn effeithiol. Mae camdriniaeth o’r math yma yn gyfrinachgar, ac mae camdrinwyr yn defnyddio eu pŵer i dawelu’r dioddefwyr. Mae’n hollbwysig felly ein bod ni i gyd yn gweithredu ar unrhyw bryderon sydd gennym ni, hyd yn oed os nad ydy’r rhain yn teimlo’n bwysig. Os ydy staff mewn unrhyw leoliad yn teimlo nad yw eu pryderon wedi cael eu cymryd o ddifrif, gallan nhw gysylltu gyda fy swyddfa lle gallan nhw dderbyn amddiffyniad cyfreithiol fel chwythwyr chwiban.”

“Rydw i wedi monitro’r camau y mae’r awdurdod lleol wedi cymryd i ymchwilio’r achos yma yn annibynnol ac i wneud cynllun gweithredu. Tra ei bod hi’n glir bod camau cadarn wedi eu cymryd, mae newid diwylliannol o’r fath yma yn broses parhaol, a bydda i’n cadw mewn cyswllt gyda’r awdurdod ar y mater yma.”