CPC: Gwrando ar bobl ifanc mewn lleoliadau uwchradd

21 Mehefin 2021

Ym mis Gorffennaf rydym yn cyhoeddi adroddiad yn edrych ar gynghorau ysgolion uwchradd yng Nghymru. Bydd yr adroddiad yma yn ystyried beth sy’n gwneud cyngor ysgol da a pha heriau sy’n bodoli sy’n ei gwneud hi’n anoddach i rai pobl ifanc gael eu clywed.

Mae’r adroddiad yn seiliedig ar ymchwil lle cymerodd bron i 7,000 o bobl ifanc ran, ynghyd ag athrawon a llywodraethwyr ysgolion.

Ar y 6ed o Orffennaf bydd yr Athro Sally Holland a’i thîm yn arwain sesiwn ar-lein ar gyfer arweinwyr ysgolion uwchradd, llywodraethwyr ac aelodau cynghorau ysgol. Bwriad y sesiwn rhad ac ddim yma yw rhoi cyfle i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn ysgolion uwchradd siarad yn uniongyrchol â’r Comisiynydd a’i thîm i drafod canfyddiadau, rhannu eu profiadau eu hunain, a datblygu camau allweddol i flaenoriaethu cyfranogiad yn eu lleoliad.

Mae’n bwysig fod pobl ifanc yn teimlo fel bod rhywun yn gwrando arnynt a’u bod yn gallu cymryd rhan mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau. Wrth fynychu’r sesiwn hon byddwn yn trafod canfyddiadau allweddol am gynghorau ysgolion uwchradd ac yn archwilio sut mae cyfranogiad effeithiol yn sicrhau hawliau dynol plant.

Os hoffech chi fynychu’r sesiwn hon yna cliciwch ar y linc yma i gofrestru.