Comisiynydd yn ymateb i ddiweddariad Llywodraeth ar gyfle i ddisgyblion i fynd i’r ysgol cyn y Pasg

3 Mawrth 2021

Ym ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar 3 Mawrth, dywedodd Yr Athro Sally Holland:

“Fe wnaeth miloedd o bobl ifanc rannu eu barn gyda ni drwy ein harolwg am straen y cyfnod clo. Dwi’n bles fod mwy o ddisgyblion yn mynd i gael cyfle nawr i ddychwelyd i amser wyneb-yn-wyneb yn yr ysgol cyn gwyliau’r Pasg a bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ar ofynion pobl ifanc i gael mwy o amser gyda’u hathrawon a’u ffrindiau.

“Dwi’n mawr groesawi’r ffocws ar les ac yn dilyn cyhoeddiad heddiw fe fydd ysgolion uwchradd yn medru creu cyfleodd wedi’u teilwra i’w disgyblion nhw a chymuned yr ysgol. Ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb yr aberthau enfawr rydyn ni gyd wedi gorfod gwneud, ac yn fwyaf pwysig mae ein pobl ifanc wedi gwneud, i leihau’r raddfa trosglwyddo.”