‘Effaith ddinistriol’ y pandemig ar blant a phobl ifanc

12 Chwefror 2021

Mae adroddiad sy’n cyflwyno safbwyntiau a phrofiadau bron i 20,000 o blant a phobl ifanc rhwng 3 a 18 oed yn ystod y cyfnod clo presennol yng Nghymru wedi amlygu effaith ddinistriol y pandemig ar eu bywydau.

Mae ymgynghoriad Comisiynydd Plant Cymru wedi datgelu bod bywyd wedi bod yn anodd i bob grŵp oedran:

Rhwystredigaethau a dicter

Mynegwyd teimladau negyddol cryf gan lawer o blant a phobl ifanc; mynegon nhw eu rhwystredigaeth, a’u dicter ar adegau, am effaith y pandemig ar eu bywydau. Soniodd plant rhwng 3 a 7 oed am weld eisiau ffrindiau, aelodau teulu a phrofiadau. O ganol yr arddegau ymlaen, roedd arwyddion o ofidiau ychwanegol, wedi’u gwaethygu o bosib gan bryderon am arholiadau a’u dyfodol. Adroddodd 30% o’r bobl ifanc 17 a 18 oed a gymerodd ran yn yr arolwg eu bod yn bryderus y ‘rhan fwyaf o’r amser’.

Unigrwydd

Mae cyfraddau unigrwydd yn uchel, a methu â gweld ffrindiau sy’n cael yr effaith fwyaf ar fywydau plant, wedi’i ddilyn gan fethu â gweld aelodau eraill o’r teulu ac effaith cau ysgolion a cholegau. Adroddodd 14% o’r plant rhwng 7 ac 11 oed eu bod yn teimlo’n unig y ‘rhan fwyaf o’r amser’, ac mae teimladau o unigrwydd yn cynyddu gydag oedran, gyda 40% o’r bobl ifanc 17 oed yn adrodd eu bod yn teimlo’n unig y rhan fwyaf o’r amser.

Addysg

Mae dros hanner y bobl ifanc rhwng 12 a 18 oed yn mwynhau dysgu ar eu cyflymder eu hunain o gartref, ond mae llawer yn poeni am gwympo tu ôl gyda’r dysgu – gwelir lefelau hyder a chymhelliant o ran addysg yn gostwng gydag oedran. Mae mwyafrif helaeth y bobl ifanc rhwng 15 a 18 oed yn poeni am gwympo tu ôl ac am eu cymwysterau, ac adroddodd 69% ohonynt am gymhelliant isel i wneud gwaith ysgol.

Anghydraddoldebau

Mae plant sy’n aml yn wynebu mwy o rwystrau rhag cael mynediad at eu hawliau, hyd yn oed pan nad oes pandemig byd-eang, hefyd wedi wynebu mwy o drafferthion ar gyfartaledd na’u cyfoedion.

Mae plant a phobl ifanc anabl yn fwy tebygol o boeni am y coronafeirws, yn fwy tebygol o deimlo’n drist, ac yn fwy tebygol o deimlo’n anniogel.

Mae plant a phobl ifanc Duon, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig eraill yn fwy tebygol o deimlo’n unig ac yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel na’u cyfoedion.

Pethau cadarnhaol o ganlyniad i’r pandemig

Er gwaetha’r pryderon y mae plant a phobl ifanc yn adrodd amdanynt, mae llawer hefyd yn sôn am brofiadau cadarnhaol, fel y gwnaethon nhw ym mis Mai 2020, gan gynnwys mwynhau treulio amser gartref a chael cefnogaeth dda gan ysgolion a gweithwyr ieuenctid.

Wrth siarad am y canfyddiadau, meddai’r Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae’n amlwg drwy ganlyniadau’r arolwg bod y pandemig yn cael effaith ddinistriol ar lawer o fywydau ifanc, er gwaetha ymdrechion enfawr yr ysgolion, colegau, gweithwyr ieuenctid, gwasanaethau cymdeithasol a’r gwasanaethau iechyd. Unwaith eto, rydyn ni wedi gweld bod y pandemig wedi cael effaith anghyfartal ar blant a phobl ifanc, ac er bod rhai wedi parhau i ffynnu yn ystod y cyfnod yma, mae eraill wedi wynebu anawsterau niferus.

“Mae’n ddealladwy mai atal marwolaethau a salwch difrifol yw’r brif flaenoriaeth, ond mae’r canlyniadau yma’n cynnig llwybr clir i Lywodraeth Cymru o ran yr hyn sydd angen ei flaenoriaethu ar gyfer plant a phobl ifanc yn ystod yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

“O ran addysg, mae’n amlwg bod plant a phobl ifanc o bob oed yn gweld eisiau nid yn unig dysgu ffurfiol, ond hefyd y cymdeithasu a’r gefnogaeth y mae’r ysgol a’r coleg yn ei chynnig. Pan fyddan nhw’n dychwelyd, bydd angen cefnogaeth arnyn nhw gyda phynciau academaidd, ac mae’n bosib y bydd angen blaenoriaethu amser i siarad am eu profiadau, cyfleoedd i fod gyda ffrindiau a chwarae, a hefyd cyfle i ystyried a bod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn ystod y pandemig – o ddysgu annibynnol i gefnogi eraill.

“Mae ganddon ni i gyd ran i’w chwarae – fel rhieni, gwasanaethau cyhoeddus, cyflogwyr, prifysgolion, y wasg a’r llywodraeth – i gyfleu yn glir i’n plant a’n pobl ifanc nad ydyn nhw wedi cael eu hanghofio, ein bod ni’n cydnabod yr heriau a’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni yn ystod y cyfnod yma, ein bod ni yma i’w cefnogi nhw, ac na fyddwn ni’n gadael iddyn nhw golli allan yn yr hirdymor.”

Rhannwyd canlyniadau’r arolwg gyda TAG, sef Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru, er mwyn i’r dystiolaeth gael ei hasesu ochr yn ochr â thystiolaeth wyddonol arall sy’n cael ei hystyried wrth bennu sut mae lliniaru’r tarfu ar fywydau plant mewn ffordd sy’n ddiogel i iechyd y cyhoedd. Byddant hefyd yn cael eu hanfon at SAGE, sef Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau y Deyrnas Unedig, i gynnig dimensiwn arall i’w trafodaethau ar ailagor ysgolion.

DIWEDD