Datganiad Comisiynydd ar gyhoeddiad 19 Chwefror Llywodraeth ar ddychwelyd i’r ysgol

19 Chwefror 2021

Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar rhai disgyblion yn dychwelyd i’r ysgol, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae’n rhyddhad mawr fod ein dysgwyr ieuengaf yn gallu edrych ymlaen at ddychwelyd i’r ysgol yn fuan, ac i glywed y bydd y Llywodraeth yn gallu agor ysgolion i fwy o ddisgyblion cyn bo hir os ydy pethau yn parhau i symud yn y cyfeiriad cywir. Mae’n glir bod disgyblion o bob oedran eisiau dychwelyd i ddysgu wyneb-yn-wyneb cyn gynted ac sy’n bosib, a dwi’n gwybod bod staff ysgol yn rhannu’r gobaith yma. Mae angen i blant ddychwelyd i’r ysgol am sawl rheswm, yn cynnwys i gymdeithasu ac am gefnogaeth, nid jyst er mwyn eu haddysg.

“Mae’n rhaid i ni gyd barhau i weithio gyda’n gilydd i leihau trosglwyddiad y feirws yn y gymuned fel bod pob disgybl yn gallu dychwelyd cyn gynted â phosib.”