Adolygiad yn dod i’r casgliad bod Llywodraeth wedi methu yn ei dyletswydd i ddiogelu hawliau plant sy’n cael eu haddysgu gartref, a phlant mewn ysgolion annibynnol

25 Chwefror 2021

Mae adolygiad ffurfiol gan Gomisiynydd Plant Cymru wedi dod i’r casgliad bod Llywodraeth Cymru wedi methu yn ei dyletswydd i ddiogelu hawliau plant sy’n cael eu haddysgu gartref, a phlant mewn ysgolion annibynnol.

Daw’r adolygiad hwn ddegawd wedi marwolaeth Dylan Seabridge, bachgen o Sir Benfro a fu farw o’r llwg (scurvy) ar ôl cyfnod o 7 mlynedd pan oedd heb ei weld gan unrhyw wasanaethau.

Ers ei farwolaeth bu galwadau niferus – a nifer o ymrwymiadau dros flynyddoedd lawer gan y Llywodraeth – am reoleiddio addysgu gartref yn llymach, gan gynnwys galwadau am gofrestr neu gronfa ddata, a hefyd am sicrhau bod gwasanaethau proffesiynol yn gweld plant.

Mae achosion eraill hefyd wedi amlygu’r angen am gryfhau’r gyfraith ynghylch addysgu gartref, yn ôl y Comisiynydd Plant. Y llynedd, roedd Adolygiad Ymarfer Plant a gyhoeddwyd yn cynnwys manylion achos o gam-drin corfforol ac emosiynol difrifol lle roedd y ffaith bod plant y teulu yn derbyn eu haddysg gartref yn un ffactor. Mae’r adroddiad yn nodi bod y rhieni wedi cyflawni eu dyletswyddau cyfreithiol o ran yr addysgu gartref, ond bod diffygion yn y canllawiau cyfredol ar gyfer hynny. Fel rhan o’r Adolygiad Ymarfer Plant, dywedodd y plant dan sylw “…mai’r plant ddylai ddewis ydyn nhw am gael eu haddysgu gartre” ac “y dylai swyddogion addysg ddod i’r tŷ”.

Yr haf diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi gollwng cynlluniau ar gyfer deddfwriaeth newydd, gan gyfeirio at effaith y Coronafeirws ar ei llwyth gwaith.

Arweiniodd hynny at y Comisiynydd Plant yn adolygu effeithiolrwydd penderfyniadau’r Llywodraeth yn y maes hwn dros nifer o flynyddoedd.

Bu’r Comisiynydd hefyd yn adolygu effeithiolrwydd penderfyniadau’r Llywodraeth mewn perthynas â diogelu mewn ysgolion annibynnol.

Ar hyn o bryd, nid yw’n ofynnol bod staff ysgolion annibynnol wedi’u cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (EWC) i Gymru, sef rheoleiddiwr annibynnol staff addysg.

Mae hynny’n golygu nad yw’r EWC yn gallu ymyrryd os codir pryderon ynghylch athrawon neu staff cefnogi dysgu mewn ysgolion annibynnol.

Mae hefyd yn golygu na ellir tynnu staff ysgolion annibynnol oddi ar gofrestr y gweithlu yn yr un modd â staff ysgolion y wladwriaeth, sy’n golygu eu bod yn gallu dal i weithio gyda phlant hyd yn oed os byddan nhw wedi cael eu diswyddo yn dilyn gweithdrefnau disgyblu mewnol yn ymwneud â chamymddygiad yng nghyswllt plant.

Codwyd pryderon hefyd ynghylch cryfder rheoliadau ysgolion annibynnol o ran gofynion cofrestru, gan gynnwys arweinyddiaeth a rheolaeth.

Cyflwynwyd Rheoliadau Ysgolion Annibynnol i Gymru yn 2003. Ers hynny, mae’r canllawiau yn yr Alban a Lloegr wedi cael eu cryfhau, ond ni fu fawr ddim newidiadau ystyrlon yng Nghymru, yn ôl y Comisiynydd Plant.

Dyma’r tro cyntaf i swyddfa’r Comisiynydd Plant ddefnyddio ei bwerau cyfreithiol i adolygu Llywodraeth Cymru.

Canfyddiadau’r Adolygiad

Yng nghyswllt Addysgu Gartref, canfu’r adolygiad y canlynol:

  • bod ‘Llywodraeth bresennol Cymru wedi methu ag ymateb yn ddigonol’ yn dilyn marwolaeth Dylan Seabridge yn 2011
  • ‘nad yw Llywodraeth Cymru wedi cydymffurfio â’i dyletswyddau cyfreithiol’ ynghylch hawliau plant yn y maes hwn
  • ‘na chyflawnwyd newid sylweddol’ er gwaethaf ymgyngoriadau niferus ar ganllawiau diwygiedig ar draws dau dymor Llywodraeth, a nifer o adroddiadau ac argymhellion gan amrywiol gyrff. Mae’r newidiadau ‘wedi methu symud ymlaen bob tro’
  • bod y cynlluniau sydd bellach wedi’u rhoi o’r neilltu, a gynigiwyd gyntaf gan Lywodraeth Cymru ym mis Ionawr 2018, i gryfhau’r rheoleiddio ‘yn gyfyngedig yn eu gallu i amddiffyn plant’ a ‘heb fod yn ddull priodol o ymdrin â’r materion dan sylw’
  • bod angen deddfwriaeth sylfaenol yn y Senedd nesaf i wneud y newidiadau rheoliadol angenrheidiol i helpu pob plentyn sy’n cael addysg gartref i dderbyn eu hawliau dynol.

Yng nghyswllt ysgolion annibynnol, canfu’r adolygiad y canlynol:

  • bod Llywodraeth Cymru wedi methu â datrys ‘bylchau diogelu’ cysylltiedig ag ysgolion annibynnol, er bod rhai materion wedi bod ‘ar eu radar ers o leiaf 18 mlynedd’, ac er bod yr angen am ddiwygio yn y maes hwn yn cael ei dderbyn yn gyffredinol, a chan y corff trosfwaol sy’n cynrychioli ysgolion annibynnol yng Nghymru yn ogystal
  • y dylsai pryderon diogelu a godwyd ynghylch pennaeth ysgol breifat yn Sir Ddinbych yn 2019 ‘fod wedi gweithredu fel catalydd’ i gryfhau’r gyfraith, ond bod hynny’n ‘dal heb gael blaenoriaeth’.

Argymhellion

Mae’r adroddiad yn cyflwyno sawl argymhelliad sydd i’w symud ymlaen yn ystod chweched tymor y Senedd, gan gynnwys:

  • cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol i sicrhau bod modd gweld yr holl blant yng Nghymru a siarad â nhw am eu haddysg
  • diweddaru’r sefyllfa reoliadol yn sylweddol yng nghyswllt ysgolion annibynnol, a sicrhau bod athrawon ysgolion annibynnol yn cael eu cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.

Wrth gyhoeddi’r adolygiad, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland:

“Mae’r diffyg cynnydd dros nifer o flynyddoedd yn y meysydd polisi hyn wedi achosi rhwystredigaeth.

“Er fy mod i’n cydnabod bod llawer iawn o adnoddau’r Llywodraeth wedi cael eu dargyfeirio i ymateb i’r pandemig, fy mhryder i yw bod yr oedi yn yr achosion hyn wedi digwydd dros gyfnod hir, ac y gallai hynny barhau mewn blynyddoedd i ddod os na wneir ymdrech bendant i roi sylw i’r materion a amlinellwyd yn fy adroddiad.

“Mae camau gweithredu a bwriadau Llywodraethau olynol wedi bod yn rhy betrus, heb ddigwydd yn ddigon cyflym, ac yn y pen draw wedi bod yn aneffeithiol o safbwynt diwygio ystyrlon.

“Mae’n gwbl hanfodol i blant yng Nghymru bod y materion hyn yn derbyn sylw yn ystod tymor nesaf y Senedd, a hynny mewn modd penderfynol, eglur a thryloyw. Allwn ni ddim edrych yn ôl ymhen degawd arall a chanfod ein bod yn dal heb symud ymlaen fel gwlad.

“Mae gan y Llywodraeth tan 7 Ebrill i ymateb yn ffurfiol i argymhellion yr adroddiad, ac rwy’n disgwyl iddyn nhw, bryd hynny, nodi eu cynlluniau nesaf ar gyfer symud ymlaen gyda’r meysydd gwaith hyn.

“Ac mae gen i neges bwysig i ddisgyblion a all fod yn derbyn eu haddysg gartref neu’n mynd i ysgolion annibynnol yng Nghymru: fy nod yn y gwaith hwn yw diogelu rhai o’ch hawliau sylfaenol, nid yn unig i gael eich cadw’n ddiogel ac yn iach, ond i dderbyn yr addysg orau ac i sicrhau bod eich barn a’ch safbwyntiau yn cael gwrandawiad. Rwyf wedi siarad â llawer ohonoch chi sydd naill ai’n derbyn addysg gartref neu’n cael eich addysg mewn ysgol annibynnol, ac rydych chi’n teimlo’n ddiogel, yn cael profiadau gwych, ac yn ffynnu – rwyf innau am sicrhau bod Cymru’n wlad sy’n cynnig hynny i bob plentyn.