Ystod eang o rwystrau i ddysgwyr i gael mynediad at ddysgu o bell

28 Ionawr 2021

Mae cip-arolwg o 167 o arweinwyr ysgolion a cholegau dan arweiniad Comisiynydd Plant Cymru wedi datgelu’r ystod eang o rwystrau y mae dysgwyr yn eu hwynebu wrth gael mynediad at ddysgu o bell yn ystod y cyfnod clo presennol.

Darllenwch yr adroddiad byr

  • Yn 12% o’r ysgolion roedd o leiaf 20% o’r dysgwyr heb fynediad at ddyfais ddigidol;
  • Adroddodd y colegau ystod rhwng 0 a 20% o ddysgwyr heb fynediad at ddyfeisiau
  • Mae cael mynediad a rennir at ddyfais, yn hytrach na mynediad neilltuol, yn gyffredin, ac roedd dros hanner y dysgwyr yn rhannu mynediad yn 35% o’r ysgolion a’r colegau.
  • Mae rhwystrau cymdeithasol yn aml yr un mor bwysig â mynediad digidol yn ôl arweinwyr addysg, gyda hyder isel a diffyg amser a gofod yn effeithio ar allu rhieni i gefnogi gwersi eu plant.

Mewn ymateb i bryderon a adroddwyd yn y wasg ac yn ei gwasanaeth cynghori ac ymchwil annibynnol ei hun am blant a oedd heb ddyfeisiau digidol na band eang neu ddata i gael mynediad at eu dysgu, penderfynodd y Comisiynydd gael darlun o’r angen drwy geisio gwybodaeth yn uniongyrchol gan benaethiaid ysgolion a cholegau.

Dros gyfnod o wyth diwrnod yn unig, adroddodd 167 o arweinwyr ysgolion a cholegau ystod eang o rwystrau:

  • yr un mwyaf cyffredin oedd teuluoedd ddim yn cysylltu â’r ysgol neu goleg i wneud trefniadau ar gyfer mynediad digidol (a oedd wedi digwydd yn 49% o’r lleoliadau),
  • doedd gan 42% o’r lleoliadau ddim digon o ddyfeisiau,
  • mewn dros 52% o’r ysgolion a’r colegau, roedd rhai cartrefi heb fynediad at y rhyngrwyd,
  • yn 46% ohonynt, roedd rhai cartrefi heb fynediad at ddigon o ddata.

Wrth siarad am y canfyddiadau a chyn ymddangos o flaen Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, meddai’r Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Cefais fy nharo’n arbennig gan yr ymdrech sylweddol ac amrywiol yr oedd yr ysgolion a’r colegau wedi mynd iddi i ddarparu ar gyfer anghenion amrywiol eu disgyblion, i’w cael nhw i gyd ar-lein ac i ddarparu gwersi priodol a chefnogaeth llesiant gan ddefnyddio ystod eang o ddulliau. Ond mae rhaniad digidol yn dal i fodoli yng Nghymru i ddysgwyr. Mewn ymateb i’r hyn rydw i wedi’i glywed, rwy’n gofyn am dri newid allweddol:

  1. Dylai awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru ystyried canfyddiadau’r adroddiad hwn ochr yn ochr â’u harchwiliad presennol eu hunain er mwyn sicrhau bod problemau cyflenwi dyfeisiau sy’n dal i fodoli yn lleol yn cael eu datrys yn syth.
  2. Gan gydnabod ymdrechion i ddosbarthu dyfeisiau MiFi, mae bylchau’n dal i fodoli. Er mwyn sicrhau cyflenwad ledled Cymru, dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu eu trafodaethau gyda darparwyr band eang a symudol y Deyrnas Unedig ar frys, fel bod y cynigion sydd ar gael i gyfoedion yn Lloegr yn cael eu hymestyn i ddysgwyr yng Nghymru.
  3. Er ei bod yn glir bod angen gwelliannau yn syth, dylai Llywodraeth Cymru weithio ar wella cysylltedd, mynediad at ddyfeisiau digidol, a hyder a sgiliau digidol ymhlith rhieni a gofalwyr ledled y wlad ar gyfer yr hirdymor. Mae addysg yn dibynnu ar allu dysgwyr i astudio’n annibynnol yn eu cartrefi, ac mae’r pandemig wedi atgyfnerthu anghydraddoldebau cymdeithasol ac addysgol. Cynhwysiant digidol yw un o’r llwybrau tuag at sicrhau bod gan bob plentyn gyfle cyfartal i gyflawni eu llawn botensial.

Yn ogystal â chasglu safbwyntiau arweinwyr ysgolion a cholegau am y rhaniad digidol, mae’r Comisiynydd hefyd yn arwain ar ymgynghoriad sylweddol o blant a phobl ifanc – gan ail-gynnal yr arolwg Coronafeirws a Fi pan ymatebodd bron i 24,000 o blant yn ystod y cyfnod clo cyntaf ym mis Mai 2020. Dylanwadodd canlyniadau’r arolwg cyntaf hwnnw ar lywodraethau ar lefel genedlaethol a lleol. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad diweddaraf hwn yn cael eu rhannu â’r llywodraeth i ddarparu tystiolaeth bellach ar effaith y pandemig a’r cyfyngiadau ar fywydau plant er mwyn i’r Gweinidogion eu hystyried wrth adolygu cyfyngiadau.

DIWEDD