Ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar asesiadau ar 20 Ionawr

20 Ionawr 2021

“Yn ystod pandemig byd-eang, fe all pethau ry’ ni’n siwr ohonynt yn medru newid mor gyflym, a dyw’r penderfyniad ynghylch asesiadau ddim yn eithriad. Ond beth dwi wedi gofyn I’r Llywodraeth wneud ynghylch asesiadau dysgwyr yw i wneud yn siwr fod lles pob ifanc yn rhan flaenllaw o’r penderfyniad a sicrhau’r canlynol: tegwch i bob dysgwr boed bynnag eu safle addysg, tryloywder mewn penderfyniadau, a system sy’n galluogi dysgwyr i apelio os oes angen i sicrhau fod pob person ifanc yn cael eu gwobrwyo gyda graddau teg sydd wedi cael eu selio ar y dystiolaeth orau posibl.

“Mae cyhoeddiad y Gweinidog heddiw wedi cael ei selio ar gyngor oddi wrth athrawon ac mae e’n cymryd fewn i ystyriaeth yr amhariadau parhaus yn sgil y pandemig. Dwi hefyd yn ymwybodol fod y Gweinidog wedi gwrando ar ac yn poeni am yr effaith hyn oll ar les ein pobl ifanc. Dwi’n hyderus fod hyn wedi dylanwadu ar y penderfyniad mae hi wedi cyhoeddi heddiw.

“Dwi’n mawr obeithio bod penderfyniad heddiw wedi tynnu’r ansicrwydd sydd wedi achosi cymaint o bryder i bobl ifanc, ac yn eu galluogi i nawr i barhau a’u dysgu yn rhydd o’r pryder o beth allai fod yn digwydd nesaf. Mae’r penderfyniad heddiw yn cynnig ateb danfonadwy a’r eglurder oedd angen arnom a dwi’n mawr obeithio fydd pawb yn gefnogol o hyn er mwyn sichrau fod pobl ifanc yn teimlo mor hyderus a phosibl, eu bod nhw’n medru canolbwyntio ar eu dsygu ac eu bod nhw’n derbyn yr addysg a’r cymwysterau maent yn haeddu.”