Lansio ymgynghoriad o bwys i gasglu barn a phrofiadau presennol plant Cymru o’r pandemig

20 Ionawr 2021 

Yn dilyn llwyddiant yr arolwg cyntaf o’i fath yng ngwledydd Prydain y llynedd, mae Comisiynydd Plant Cymru yn lansio ymarferiad gwrando arall heddiw, gan ofyn i blant a phobl ifanc Cymru am eu barn a’u safbwyntiau presennol ar effaith y pandemig ar wahanol elfennau o’u bywydau.

Gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Plant yng Nghymru a Senedd Ieuenctid Cymru, cafwyd bron i 24,000 o ymatebion i’r arolwg cyntaf, a gafodd ei lansio ym mis Mai y llynedd, ac fe ddylanwadodd ei ganlyniadau ar benderfyniadau gan lywodraeth leol a Llywodraeth Cymru. Wrth i’r cyfyngiadau barhau, mae’r Comisiynydd yn awyddus i glywed barn uniongyrchol plant a phobl ifanc ar themâu a materion allweddol gan gynnwys eu hiechyd a’u lles, addysg, yr effaith ar ochr gymdeithasol eu bywydau ac anghenion grwpiau penodol.

Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad ‘Coronafeirws a Fi’ ar gael i Lywodraeth Cymru cyn yr adolygiad tair wythnos yng nghanol mis Chwefror, sy’n debygol o ystyried y camau nesaf o ran cyfyngiadau ar ysgolion, colegau, cyfleusterau chwaraeon a hamdden a rheolau ar gyfer ymgynnull yn gymdeithasol – mae pob un o’r rhain yn cael effaith enfawr ar fywydau plant a phobl ifanc.

Meddai’r Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Does dim byd fel clywed profiadau o lygad y ffynnon; dyna pam dw i mor benderfynol o wneud yn siŵr bod profiadau a barn plant yn cael eu casglu, a’n bod ni’n gwrando arnyn nhw wrth i ni ddal i weithio’n ffordd drwy’r pandemig yma. Mae’n rhaid i’w lleisiau gael eu clywed gan y bobl sy’n gwneud penderfyniadau enfawr sy’n effeithio ar eu bywydau.

“Trafodaeth rhwng oedolion yw llawer o’r drafodaeth yn ddiweddar, a dw i’n awyddus i symud y ffocws yn ôl i’r hyn mae plant a phobl ifanc yn ei feddwl ac yn ei brofi. Mewn gwlad sy’n ymfalchïo mewn hyrwyddo hawliau plant, fe ddylai’r lleisiau ifanc yma fod yn ganolog ym mhob proses benderfynu, ac fel eiriolwr annibynnol drostyn nhw, dyma beth dw i yma i’w wneud.”

Er mwyn galluogi ystod amrywiol o blant a phobl ifanc i gymryd rhan – gan gynnwys plant o dan 7 oed a’r rhai sydd ag anghenion cymorth ychwanegol – mae fersiwn symbolau o’r arolwg ar gael yn ogystal â thasg gweithgaredd lluniau fel dewis arall yn lle cwblhau fersiwn testun yr arolwg. Bydd pob fersiwn o’r arolwg ar gael ar wefan y Comisiynydd heddiw (20 Ionawr 2021).

Dywedodd Dirprwy Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Julie Morgan: “Mae’n bwysig iawn ein bod ni’n deall profiadau plant a phobl ifanc yn ystod y pandemig.

“Mi fydd eu hymatebion i arolwg ‘Coronafeirws a Fi’ yn rhoi mewnwelediad i’r effaith ar eu bywydau a sut maent yn teimlo am y peth.

“Ry’n ni’n croesawu’r cyfle i weithio mewn partneriaeth gyda sefydliadau eraill fel ein bod ni’n medru clywed  lleisiau plant a phobl ifanc gyda’n gilydd, ac ein bod ni’n medru dysgu o’r amseroedd heriol yma ac i ddylanwadu ar benderfyniadau wrth symud ymlaen.

“Ry’n ni’n edrych ymlaen at weld yr ymatebion ac yn annog pawb sy’n gymwys i gymryd rhan.”