Comisiynydd yn ymateb i gyhoeddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru ar ysgolion

4 Ionawr 2021

Yn ymateb i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru ar gau adeiladau ysgolion a cholegau Cymru tan 18 Ionawr, dyweddodd y Comisiynydd Plant:

“Mae’n gwbl ddealladwy bod yr amrywiolyn newydd o’r feirws a’r lefelau uchel o’r haint yng Nghymru yn creu pryder a dryswch. Mae angen eglurder am yr amrywiolyn newydd yma a’i effaith ar gymunedau ysgolion er mwyn galluogi fod y penderfyniadau ynghlych ail-agor adeiladau ysgol wedi’u selio ar ffeithiau.

“Rydyn ni’n gwybod bod unrhyw benderfyniad i symud i ddysgu ar-lein i’r mwyafrif, hyd yn oed am gyfnodau byr, yn codi risg cymdeithasol, addysgol a iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, ac mae angen ymateb i liniaru’r risgiau a’r effaith yn syth ac am y tymor hir. Dylsai profiadau a barn plant a phobl ifanc fod yn rhan ganolog o’r gwaith yma.

“O fod wedi gwrando ar filoedd o brofiadau plant fy hun, ry’n ni’n gwybod fod y pandemig yma wedi mwyhau’r anfanteision sy’n wynebu rhai o’n cymunedau. Gallwn ni ddim parhau gydag hyn ac mae angen gweithredu ar frys i ymateb i’r materion yma sy’n dwysau o ganlyniad i adeiladau ysgol ar gau.

“Does dim byd gwell na dysgu wyneb-yn-wyneb; fe wnes i argymell i’r Prif Weinidog mis diwethaf y byddai brechu staff mewn mewn ysgolion yn medru gwarchod dysgu wyneb-yn-wyneb ac yn arwain at lai o darfu o fewn ysgolion; dwi’n ail-adrodd yr alwad hynny heddiw.”