Comisiynydd Plant yn galw am gamau i leihau effaith cau ysgolion ar blant

8 Ionawr 2021

Yn ymateb i ddatganiad Llywodraeth Cymru am ysgolion yn parhau ar gau, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

Mi fydd y newydd fod adeiladau ysgolion a cholegau ddim am agor i’r rhanfwyaf am rai wythnosau pellach yn mynd i gael effaith arwyddocaol ar blant a’u teuluoedd. Dwi’n annog pobl o bob oed i chwarae eu rhan gan ddilyn rheolau Haen 4 er mwyn galluogi adeiladau ysgolion a cholegau ail-agor mor gyntedâ phosibl.

Mae yna nawr bedwar blaenoriaeth brys i gefnogi plant a phobl ifanc:

  • Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru, ar frys, greu disgwyliadau lleiaf i’r cynnig ar-lein, sy’n addas i bob oed, i bob dysgwr. Dyw hyn ddim yn golgyu cynnig ar-sgrin drwy’r dydd, bob dydd – fyddai hyn ddim yn beth iachus i ddisgyblion nac athrawon – ond dylai disgyblion a’u rhieni fod yn glir o beth i ddisgwyl wrth eu hysgolion. Mae’n amlwg fod nifer fawr o ysgolion wedi gweithio’n galed i ddatblygu eu cynnig ar-lein dros y misoedd diwethaf, ac mae pobl ifanc wedi dweud fod pethau wedi gwella, ond allwn ni byth ddibynnu ar lwc o lle ry’ chi’n byw pan mae’n dod i addysg ein plant.
  • Mae’n rhaid i awdurdodau lleol, gyda chefnogaeth wrth Lywodraeth Cymru, sicrhau fod ynafynediad i ddyfeisiau digidol i bob dysgwr sydd angen un. Fe fyddai’n casglu barn oddi wrth pob pennaeth a phrif sywddogion colegau ar draws Cymru i ddarganfod lefelau o’r angen a’r rwystrau sy’n bodoli er mwyn tynnu sylw’r awdurdodau a’r Llywodraeth at y sefyllfa. Medrwn ni ddim sicrhau mynediad i addysg i bob plentyn heb wneud hyn.
  • Does dim dadlau fod plant wedi dioddef yn ystod y pandemig ac mae’n rhaid i ni gyd sicrhau fod rheiny sydd angen cefnogaeth iechyd meddwl yn derbyn yr help sydd angen heb unrhyw oedi. Dwi wedi cyhoeddi gwybodaeth ar fy ngwefan am y gefnogaeth wych mae sefydliadau’n cynnig ar hyn o bryd.
  • Mae’n rhaid i ni ddarganfod modd o ail-agor adeiladau ysgolion a cholegau mor gynted ag sy’n bosibl, bod yn capasiti llawn neu hyd yn oed presenoldeb rhan-amser. Dylai staff sy’n gweithio mewn ysgolion a cholegau hefyd eu blaenoriaethu yn y rhaglen frechu.

Does neb eisiau bod yn y sefyllfa yma ac mi fydd plant a’u teuluoedd yn mynd i fod yn drist a siomedig fod ysgolion a cholegau yn parhau i fod ar gau i’r rhan fwyaf o ddysgwyr. Ond, mae’n rhaid i’r ffocws ar hyn o bryd fod ar sicrhau ein bod ni’n gwneud popeth yn ein gallu i leihau’r effaith anochel ar blant, tra’n gwarchod iechyd cyhoeddus.