Comisiynydd Plant: ‘Rydyn ni am weld pob disgybl yn dychwelyd i ddysgu wyneb-yn-wyneb; mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam i’r cyfeiriad cywir’

29 Ionawr 2021

Yn ymateb i ddiweddariad Llywodraeth Cymru ar 29 Ionawr, dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant:

“Fe wnaethon ni glywed neges glir wrth y Prif Weinidog heddiw yn cydnabod y cyfnod anodd a gofidus mae’n plant a’n pobl ifanc yn wynebu.

“Mae 19,000 o blant wedi rhannu eu barn gyda fi’n barod yr wythnos hon. Mae’r canlyniadau yn rhai pryderus; mae llawer yn gweld y cyfnod yma yn un heriol iawn.

“Rydyn ni am weld pob disgybl yn dychwelyd i ddysgu wyneb-yn-wyneb; mae’r cyhoeddiad heddiw yn gam i’r cyfeiriad cywir. Mae’n rhaid i’r trafodaethau fod yn rhai brys, sy’n ffocysu ar ddatrysiadau ac yn cymryd i ystyriaeth profiadau dysgwyr, fel ein bod ni’n medru gwireddu ein hamcan gyfunol ar ol hanner tymor.”