Neges i ddysgwyr gan Gomisiynydd Plant Cymru – asesiadau 2021

16 Rhagfyr 2020

Does dim dwywaith bod eleni yn mynd i fod yn flwyddyn y byddwn yn cofio am weddill ein bywydau; blwyddyn o gyfnodau clo; o reolau, o dristwch, o fod yn ofnus. Mae hefyd wedi bod yn flwyddyn lle ry’ ni wedi addasu, wedi medru chwilota mwy o’r awyr agored, o werthfawrogi’r holl bethau sydd wir yn ein gwneud yn hapus a blwyddyn lle ry’n ni wedi dysgu sut i ddefnyddio Zoom! I ran fwyaf ohonoch, mae hon yn flwyddyn lle mae eich dysgu wedi edrych yn wahanol hefyd. Fe wnaethom glywed rhai wythnosau yn ôl bod arholiadau ac asesiadau yn mynd i edrych yn wahanol hefyd. Pan fod penderfyniadau o’r fath yn cael eu cymryd, fy mhrif ffocws oedd, ac fe fydd o hyd, ar sicrhau fod y Llywodraeth yn gwrando ar eich barn a’ch profiadau chi. Rwyf hefyd wedi gweithio’n galed ar sicrhau fod y newidiadau yn deg, yn cymryd sylw o’ch gwahanol brofiadau, a’ch bod yn cael cyfle i ffocysu ar ddysgu yn hytrach na phryderu am arholiadau. Dwi hefyd yn gwybod bod angen arnoch system sy’n sicrhau eich bod chi’n derbyn cymwysterau fydd angen arnoch i barhau a’ch gyrfa.

Yn ei chyhoeddiad heddiw, mae’r Gweinidog wedi bod yn glir yn ei chyfarwyddyd a dwi’n gwbl gytûn gyda hi: gorffwyswch a gofalwch am eich hun a’ch teulu dros y Nadolig. Fe hoffwn dawelu’ch meddwl hefyd y byddwn yn parhau i weithio’n ddiwyd yn 2021 er mwyn sicrhau y medrwch gael mynediad i’ch hawliau i gael eich clywed, i dderbyn gwybodaeth glir, cael eich trin yn deg, bod eich lles yn cael ei warchod ac i addysg fydd yn eich galluogi i gyrraedd eich llawn botensial.