Comisiynydd Plant Cymru yn ymateb i gynlluniau ail-agor ysgolion yn Ionawr 2021

17 Rhagfyr 2020

Yn ymateb i ddatganiad Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, dyma ddywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Er mod i’n derbyn a chefnogi ymdrechion y Llywodraeth i’n cadw ni gyd yn ddiogel ac yn sylweddoli’r anhawsterau sy’n wynebu arweinwyr ysgolion, dyw fy safbwynt am ail-agor adeiladau ysgolion heb newid ers yr wythnos ddiwethaf. Dwi methu cefnogi mwy o oedi i ddysgu o fewn yr ysgol, heblaw bod ysgolion unigol yn wynebu sefyllfaoedd eithriadol sydd wedi’u diffinio’n glir.

“Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrtha i eich bod chi methu cymharu dysgu ar-lein, hyd yn oed dysgu sydd wedi ei gynllunio’n ofalus, gyda dysgu yn y dosbarth. Mae’n amlwg yn gosod rheiny o dan anfantais o dan fwy o anfantais. Mae’r Llywodraeth ac awdurdodau gyda’r dystiolaeth yma’n barod.

“Dwi’n nodi fod y datganiad yn nodi mai dysgu wyneb yn wyneb ddylsai fod yn digwydd yn ddi-ofyn ond dwi’n credu fod datganiad heddiw yn rhoi pwysau anheg ar arweinwyr ysgolion oherwydd amseriad y peth a diffyg manylion o amgylch y meini prawf y dylsen nhw ddefnyddio i wneud penderfyniad mor ddwys.

“Mae plant a phobl ifanc hefyd wedi trafod gyda fi yr ansicrwydd a’r cyfnodau aml allan o’r dosbarth a’r effaith negyddol ar eu hiechyd a lles meddyliol. Mae’n rhaid cofio hefyd yr cyfnodau mawr o amser o ddysgu wyneb yn wyneb mae plant wedi colli yn 2020. Dyw’r datganiad yma ddim yn mynd i dawelu meddwl sydd angen digwydd dros y Nadolig.

“Mae data o Loegr sydd wedi eu cyhoeddi heddiw yn tynny sylw at y ffaith mai ond effaith dros dro mae cau ysgolion yn ei gael ar achosion. Mi fyddai’n gofyn i Iechyd Cyhoeddus Cymru i gyhoeddi unrhyw ddata tebyg sydd ganddyn nhw fel ein bod ni ag eraill yn medru archwilio’r gwyddoniaeth tu cefn i’r penderfyniad diweddaraf yma yng Nghymru.

“Mae yna hefyd angen eglurder brys ar gynlluniau am brofion Covid i ysgolion a cholegau er mwyn osgoi mwy o darfu nid yn unig i addysg ein plant ond eu lles a’u hiechyd meddwl.”