Ymateb y Comisiynydd Plant i gyhoeddiad Llywodraeth Cymru am gyfnod clo newydd

19 Hydref 2020

“Drwy ein ymgynghoriad o bron i 24000 o blant a phobl ifanc adeg y cyfnod clo cenedlaethol cyntaf, fe ddaeth hi’n amlwg bod cau ysgolion wedi anfanteisio rhai plant a phobl ifanc mwy nag eraill. Dylai cau adeiladau ysgolion a cholegau cael ei gyflwyno pan fetho popeth arall.

“Rydw i’n nodi a chroesawu penderfyniad y Prif Weinidog i osod plant a’u haddysg fel blaenoriaeth, ac yn croesawu’r newyddion fod ysgolion cynradd, ysgolion arbennig, sefydliadau sy’n cynnig gofal plant a rhai blynyddoedd o ysgolion uwchradd yn medru dychwelyd.

“Ond rydw i’n credu ei fod yn rhoi pwysau afresymol ar blant a sefydliadau addysg i sicrhau fod cynlluniau penodol mewn lle i’r rhai fydd ddim yn medru dychwelyd ar ol hanner tymor, mewn ond 4 diwrnod gwaith. Mae nhw wedi wynebu pwysau aruthrol dros y misoedd diwethaf a heb weld tystiolaeth iechyd cyhoeddus clir ynghylch peidio gadael i bob blwyddyn ddychweld, a manylion am sut bydd plant ar draws Cymru yn derbyn addysg teg yn ystod yr wythnos lle mae adeiladau ysgol ar gau, dwi methu amddiffyn y penderfyniad.

“Mae’n rhaid i bobl ifanc o flwyddyn 9 ymlaen, rhai sydd wedi wynebu amhariadau yn barod y tymor yma oherwydd yr angen i hunanysu, dderbyn eglurhad oddi wrth Llywodraeth Cymru ar frys ynghylch pam fod y penderfyniad yma wedi cael ei gymryd a gwybodaeth am sut mae eu hawl i addysg yn mynd i gael ei gynnal. Mae hefyd angen tawelu meddwl yn frys y rheiny mewn blynyddoedd sy’n eistedd arholiadau y byddant yn derbyn triniaeth deg pan yn cael eu hasesu eleni, er yr amhariadau cyfredol.”