Cyhoeddi adolygiad Comisiynydd Plant Cymru o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru

22 Medi 2020

Bydd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, yn adolygu ymateb Llywodraeth Cymru i farwolaeth Dylan Seabridge yn 2011 a chofrestriad staff mewn ysgolion annibynnol.

Bydd y defnydd o bwerau statudol y Comisiynydd yn canolbwyntio ar ymateb y Llywodraeth i Adolygiad Ymarfer Plentyn Dylan Seabridge, sut mae’n rhoi ymrwymiadau cyhoeddus ar waith, y sylfaen ar gyfer penderfyniadau oddi mewn i’r Llywodraeth sy’n gysylltiedig ag addysgu gartref ac ysgolion annibynnol ac ystyried hawliau plant ym mhob rhan o’r gwaith hwn.

Mae adolygiad y Comisiynydd yn dilyn penderfyniad y Llywodraeth i beidio â symud ymlaen gyda’r newidiadau rheoliadol a gynlluniwyd cyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2021.

Y nod yw llunio argymhellion ynghylch y camau nesaf y dylai’r llywodraeth hon neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol eu cymryd i ddiogelu hawliau plant sy’n cael eu haddysgu gartref neu mewn ysgolion annibynnol.

Mae hawl gan bob plentyn yng Nghymru i gael addysg addas. Fodd bynnag, mae pryder nad yw lleiafrif bach o’r rhai sy’n cael eu haddysgu gartref o bosibl yn derbyn addysg addas, ac mae gan y Llywodraeth ac awdurdodau lleol rôl i’w chwarae o ran sicrhau nad yw plant yn colli addysg, yn ogystal â chefnogi teuluoedd sy’n addysgu gartref. Mae’r Comisiynydd hefyd yn pryderu ynghylch y diffyg gweithredu i sicrhau bod rhaid i athrawon mewn ysgolion annibynnol gofrestru gyda’r rheoleiddiwr proffesiynol, Cyngor y Gweithlu Addysg.

Dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Rydyn ni wedi bod yn galw droeon ers blynyddoedd am wella’r fframwaith cyfreithiol i ddiogelu hawliau’r plant hyn, ac mae ymateb Llywodraeth Cymru i farwolaeth Dylan Seabridge yn 2011 wedi bod yn destun pryder arbennig i ni.

“Mae dwy lywodraeth yn olynol wedi cynnig diwygio’r rheoliadau ar gyfer dewis addysgu gartref a’r gofynion cofrestru ar gyfer staff ysgolion annibynnol, ond nid ydynt wedi symud ymlaen. Rwyf am archwilio pam mae hyn wedi digwydd.

“Mewn sefyllfa fel pandemig, mae’n hawdd i’r ffocws symud oddi ar hawliau plant, er y dylai holl benderfyniadau’r Llywodraeth, mewn gwirionedd, gael eu gwreiddio mewn dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant.

“Er fy mod i’n deall ac yn gwerthfawrogi bod y pandemig wedi cael effaith sylweddol ar waith y Llywodraeth ar draws pob adran a swyddogaeth, mae dyletswydd arnon ni i ddiogelu hawliau a lles plant a phobl ifanc. Bydd elfennau o’r adolygiad hwn yn canolbwyntio ar benderfyniadau a chamau gweithredu cyn y pandemig, ac rwyf wedi gwneud ymrwymiad na ddylai’r gwaith hwn lesteirio unrhyw waith polisi sy’n parhau mewn adrannau perthnasol yn y Llywodraeth.”

Mae’r Comisiynydd wedi nodi’n eglur na fydd yr adolygiad yn ceisio beio gweinidogion neu swyddogion unigol, ond yn hytrach yn ceisio archwilio’r rhwystrau i wneud cynnydd yn y meysydd sy’n cael eu hadolygu. Bydd adroddiad ffurfiol ac argymhellion yn deillio o’r gwaith hwn yn y flwyddyn newydd.

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i’r Comisiynydd Plant gyhoeddi Coronafeirws a Ni, adroddiad sy’n rhoi trosolwg o hawliau plant yng Nghymru hyd yma yn ystod y pandemig. Mae’n cynnwys manylion ynghylch sut mae tîm y Comisiynydd wedi ymateb i’r pandemig. Yn ystod yr wythnosau nesaf bydd y Comisiynydd yn cyhoeddi cyfres o ddogfennau briffio a gweithdai ar effaith y pandemig ar grwpiau o blant a phobl ifanc, gan gynnwys plant BAME, rhai ag anabledd, a phobl ifanc 15-18 oed.