Briffiad Comisiynydd Plant ar brofiadau plant BAME o’r cyfnod clo

29 Medi 2020

Briffiad gan y Comisiynydd Plant yn cyflwyno tystiolaeth ynghylch anfanteision systematig sy’n cael eu hwynebu gan blant Du, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig (BAME) sy’n byw yng Nghymru

Mae briffiad a seiliwyd ar ddadansoddiad o farn bron 1,500 o blant BAME, a gasglwyd ym mis Mai, yng nghanol y cyfnod clo, wedi dod i’r casgliad bod y pandemig wedi mwyhau’r anfanteision systematig mae cymunedau BAME yng Nghymru yn eu hwynebu.

Ym mis Mai 2020, arweiniodd y Comisiynydd arolwg cenedlaethol oedd yn ceisio casglu barn a phrofiadau pobl ifanc 3-18 oed yn ystod y pandemig. Bu dros 23,700 o blant yn cymryd rhan, a nododd mwy na 6% ohonynt eu bod o gymunedau BAME.

Wrth sôn am y briffiad, dywedodd y Comisiynydd Plant, yr Athro Sally Holland, y byddai’r canfyddiadau’n bwysig er mwyn i Lywodraeth Cymru gynllunio ar gyfer unrhyw fesurau oedd yn cyfyngu ar symud yn y dyfodol:

“Mae sawl ardal yng Nghymru bellach o dan fesurau Coronafeirws llymach, ac rydyn ni’n gwybod pa mor gyflym gall y sefyllfa newid. Mae angen i’r Llywodraeth ystyried y canfyddiadau hyn yn ofalus er mwyn gallu gofalu am rai o’r plant mwyaf agored i niwed yn y ffordd orau, sut bynnag mae’r pandemig yn datblygu.”

Y dadansoddiad hwn yw’r cyntaf o’i fath yn y Deyrnas Unedig ac mae’n cynnwys rhai canlyniadau ystadegol arwyddocaol, sy’n arwydd o brofiadau negyddol anghymesur plant a phobl ifanc BAME yn ystod y pandemig o’u cymharu â phlant a phobl ifanc gwyn Cymreig neu Brydeinig a ymatebodd i’r arolwg ar draws Cymru.

Dyma rai ohonynt:

Roedd plant BAME 7-11 oed, o’u cymharu â phlant gwyn Cymreig neu Brydeinig:

  • Yn llai tebygol o ddweud ‘Does dim angen help ychwanegol arna i’, ac yn fwy tebygol o ddweud bod angen rhagor o wybodaeth a chefnogaeth arnyn nhw ar gyfer amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys mwy o bethau i’w gwneud gartre, teimlo’n hapus ac yn iach, cefnogaeth gyda gwaith ysgol ar-lein, siarad â ffrindiau a theulu ar-lein, a theimlo’n ddiogel gartre.
  • Yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n chwarae mwy, ac yn fwy tebygol o ddweud eu bod mewn gwirionedd yn chwarae llai.
  • Yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored.
  • Yn fwy tebygol o ddweud bod cau llyfrgelloedd, canolfannau cymunedol a methu mynd allan yn effeithio ar eu dysgu.
  • Yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw’n pryderu am ddiogelwch bwyd i’w teulu.
  • Yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw eisiau rhagor o wybodaeth am y Coronafeirws, ac yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw eisiau rhagor o wybodaeth am y rheolau cadw’n ddiogel.
  • Yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n gwybod sut i gael cefnogaeth i deimlo’n hapus ac yn iach.
  • Yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n teimlo’n hapus ‘y rhan fwyaf o’r amser’.
  • Yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw eisiau mwy o gefnogaeth gyda’u Cymraeg os oedden nhw’n mynd i ysgolion Saesneg.

Roedd plant a phobl ifanc BAME 12-18 oed, o’u cymharu â phobl ifanc gwyn Cymreig neu Brydeinig:

  • Yn fwy tebygol o ddweud bod newidiadau i weithgaredd corfforol, ymarfer corff, a’u gallu i adael y tŷ wedi cael yr effaith fwyaf arnyn nhw; ac yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw eisiau help i fwyta’n iach a chadw’n actif, ac o feddwl y dylai ysgolion gynnwys hynny yn y dysgu maen nhw’n ei gynnig
  • Yn llai tebygol o ddweud eu bod yn gwneud ymarfer corff yn yr awyr agored
  • Yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw’n pryderu am golli tir gyda’u dysgu, a sut gallai hynny effeithio ar eu canlyniadau mewn arholiadau
  • Yn fwy tebygol o ddweud bod cau llyfrgelloedd wedi effeithio ar eu dysgu
  • Yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw’n pryderu am ddiogelwch bwyd i’w teulu
  • Yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw eisiau rhagor o wybodaeth am y rheolau ynghylch cadw’n ddiogel
  • Yn llai tebygol o ddweud eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel ‘y rhan fwyaf o’r amser’
  • Yn fwy tebygol o ddweud eu bod nhw ddim yn cael cyfleoedd i ddefnyddio Cymraeg (o’r rhai oedd yn mynd i ysgolion Cymraeg).

Wrth wneud sylwadau ar y canfyddiadau, ychwanegodd yr Athro Sally Holland:

“Yn ystod y misoedd diwethaf, rydyn ni wedi clywed cymaint am y rhwystrau mae pobl BAME yn eu hwynebu trwy’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys ac yn sgîl effaith fwy negyddol Covid-19 ar bobl BAME. Mae’r dadansoddiad hwn yn rhoi tystiolaeth i ni nad yw bywydau plant yma yng Nghymru wedi bod yn gyfartal yn ystod yr argyfwng hwn.

“Wrth gyhoeddi’r adroddiad hwn, rydw i eisiau cydnabod amrywiaeth bywydau plant BAME. Fel eu cymheiriaid gwyn, mae plant BAME wedi cael profiadau amrywiol yn ystod y cyfyngiadau symud. Ond mae ein dadansoddiad yn dangos bod y pandemig wedi cael effaith negyddol anghymesur ar blant BAME, a hynny’n gyffredinol mewn nifer o ffyrdd.

“Rydw i am i’r gwaith yma a barn ein plant BAME gyfrannu at ffurfio cymdeithas deg a chynhwysol sy’n diogelu ac yn hybu hawliau dynol pawb. Mae’r gwaith yn darparu cipolwg unigryw i ni ar eu bywydau, cipolwg y gall ein gwasanaethau cyhoeddus a’n Llywodraeth, rwy’n gobeithio, eu defnyddio i lunio a dylanwadu ar atebion a fydd yn atal y broses o danseilio a lleihau eu hawliau, a ddylai fod yn cael eu diogelu a’u cynnal gan Lywodraeth Cymru.

“Ond mae’n rhaid bod mwy iddo na hyn. Ciplun sydd yma, ac mae’n amlygu’r meysydd blaenoriaeth. Rwy’n annog y llywodraeth a chyrff cyhoeddus i ymuno â mi ac ymrwymo i wneud gwaith pellach er mwyn gwrando ar blant a phobl ifanc BAME a’u cynnwys wrth gael hyd i atebion i’r anfanteision systematig hyn – anfanteision a oedd yn bodoli cyn y pandemig, ac a fydd yn parhau wedyn os na fydd gweithredu”

Mae’r briffiad yn cynnwys cyfres o flaenoriaethau ar gyfer y Llywodraeth a chyrff cyhoeddus, gan gynnwys gwaith ar y canlynol:

  • Diogelwch bwyd
  • Cadw’n iach ac yn actif
  • Diogelwch yn y cartref
  • Iechyd meddwl a llesiant emosiynol
  • Addysg a mynediad at dechnoleg
  • Gwell mynediad at wybodaeth

Soniodd Saiba, aelod BAME 17-oed sy’n gyd-gadeirydd ar banel ymgynghorol ieuenctid y Comisiynydd, am y briffiad:

“Mae arolwg y Comisiynydd Plant yn amlwg wedi bod o fudd aruthrol trwy roi cipolwg ar yr ystod o brofiadau mae plant o wahanol grwpiau ethnig wedi’u cael yn ystod y cyfnod clo. Bydd adnabod pryderon plant BAME o gymorth mawr, gan y bydd yn sicrhau eu bod nhw’n cael ystyriaeth deg, a gobeithio bydd modd teilwra atebion i wrthweithio’r pethau penodol sy’n peri pryder iddyn nhw.”

DIWEDD