Neges Diwrnod Chwarae

5 Awst 2020

Mae’r Comisiynydd wedi recordio neges fideo i groesawu Diwrnod Chwarae eleni. Mae hi’n annog plant Cymru i ddathlu yr hawl sydd ganddyn nhw i chwarae, er bod Diwrnod Chwarae eleni yn wahanol iawn i flynyddoedd diweddar.

I helpu teuluoedd chwarae adre, mae swyddfa’r Comisiynydd Plant a Chwarae Cymru wedi gweithio ar y cyd er mwyn cyhoeddi rhestr o gemau i chwarae adre, wedi eu hysgrifennu gan blant.

Mae’r dudalen wê hefyd yn cynnwys adnoddau a fideos gyda mwy o syniadau.

Ewch i’r dudalen