Llythyr gan Gomisinwyr Plant y DU at Brifysgolion y DU

16 Awst 2020

Mae pedwar Comisiynydd Plant y DU wedi danfon neges ar y cyd i Brifysgolion y DU yn gofyn iddyn nhw anrhydeddu’r cynigion y maent wedi gwneud i fyfyrwyr arfaethedig.

Mewn llythyr i ‘Universities UK’, y corff cynulliadol o Is-brifathrawon a phrif arferyddion mewn Prifysgolion y DU, galwodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, Bruce Adamson, Comisiynydd Plant a Phobl ifanc yr Alban, Anne Longfield, Comisiynydd Plant Lloegr, a Koulla Yiasouma, Comisiynydd Plant a Phobl Ifanc Gogledd Iwerddon am ‘ymateb eithriadol mewn cyfnod eithriadol’.

Fe ddywedodd y Comisiynwyr Plant annibynnol, sydd yno i warchod ac hyrwyddo hawliau plant, eu bod nhw’n pryderu fod ‘hawliau pobl ifanc i addysg a chyfle teg a chyfartal o dan berygl eleni’.

Ychwanegom:

“Fe fydd cynnigon Prifysgolion wedi cael eu cynnig ar sail datganiadau unigol, llwyddiannau blaenorol, geirda, graddau rhagfynegol ac mewn rhai achosion arholiadau mynediad a chyfweliadau. Fe fydd nifer helaeth o ddisgyblion heb gael cyfle i barhau a’u haddysg ers i’r cynigion yna. Mae’n anheg nawr gwrthod unigolion ar sail eu canlyniadau sydd wedi cael eu rhoi ar sail system sydd yn debygol o fod wedi creu eithriadau unigol.

Mae penderfyniadau prifysgolion nawr yn mynd i gael effaith hir-dymor ar genhedlaeth o bobl ifanc. Ry’n ni’n cymhell yn gryf i brifysgolion ymateb gydag ysbryd hael ac i groesawi’n gynnes yr holl fyfyrwyr sydd wedi derbyn cynigion amodol gan y sefydliad.

Darllenwch y llythyr llawn