Datganiad y Comisiynydd cyn cyhoeddi canlyniadau arholiadau

12 Awst 2020

Dyma ddywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, cyn cyhoeddi canlyniadau arholiadau Ddydd Iau:

“Mae ein pobl ifanc wedi bod drwy gyfnod andros o anodd ers mis Mawrth. Roedd cymaint o hyn yn anochel oherwydd pa mor sydyn ac annisgwyl ddaeth y pandemic. Er hyn, mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn derbyn gwybodaeth glir ynghylch sut wnaeth eu canlyniadau cael eu cyfrifo a bod system apêl hygyrch yn ei lle os yw eu canlyniadau unigol ddim yn cyfateb gyda’r hyn roeddent yn disgwyl derbyn petasai nhw wedi cael cyfle i eistedd arholiadau traddodiadol.

“Rwyf wedi rhannu hyn oll gyda’r Llywodraeth a Chymwysterau Cymru dros y misoedd diwethaf. Er ein bod ni wedi derbyn sicrwydd cryf ar gadw cydbwysedd yn y system gyfan. dwi wedi bod yn gwbl glir ar yr angen i unigolion gael mynediad i system apêl deg a chyson a chael cyfle i apelio os nad yw eu canlyniadau yn cyfateb gyda’u proffil unigol a’u disgwyliadau.

“Rwy’n disgwyl i Lywodraeth Cymru heddiw dawelu meddyliau myfyrwyr na fyddant yn cael eu gosod o dan unrhyw anfantais yn sgil newidiadau munud olaf Llywodraethau’r Alban a’r DU. Mi fydden ni hefyd yn disgwyl Llywodraeth Cymru fod yn trafod gyda phrifysgolion ag eraill i sicrhau na fydd unrhyw fyfyriwr o Gymru yn cael eu gosod o dan anfantais yn y system dderbyn.”