Comisiynydd yn ymateb i adroddiad hawliau plant pwyllgor PPIA

11 Awst 2020

Yn ei hymateb i adroddiad y pwyllgor PPIA ar hawliau plant, a gyhoeddwyd ar 11 Awst, dywedodd Yr Athro Sally Holland:

“Ni fu erioed angen mwy i ganolbwyntio ar hawliau dynol plant, wrth i Gymru weithio drwy effaith y pandemig dinistriol hwn.

“Mae’r argymhellion rhesymol ac adeiladol hyn, y mae pob un ohonynt yn ymateb yn uniongyrchol i’r pryderon a godais gyda’r Pwyllgor, yn darparu map clir i’r Llywodraeth roi hawliau dynol plant wrth wraidd yr holl benderfyniadau.

“Byddwn yn annog y Llywodraeth i’w derbyn a’u gweithredu’n ddi-oed.”

Mae’r pwyllgor yn gwneud 16 o argymhellion yn ei adroddiad a fydd, bellach, yn cael ei drafod gan Lywodraeth Cymru.