Comisiynydd yn galw am osod graddau pobl ifanc ar sail asesiadau athrawon

17 Awst 2020

Galwodd y Comisiynydd hefyd ar Lywodraeth Cymru i ystyried oedi canlyniadau TGAU oni bai eu bod nhw’n sicrhau ‘ffydd y cyhoedd’.

Yn ymateb i gri pobl ifanc am y ffordd cafodd eu graddau Lefel A a chymwysterau eraill eu cyfrifo ar Ddydd Iau, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland, 

“Mae’n amlwg bod y system sydd wedi cael ei roi yn ei le wedi methu rhoi’r canlyniadau roedd rhai myfyrwyr yn haeddu. Dwi ddim yn gweld unrhyw opsiwn arall ond newid i asesiadau athrawon er mwyn rhoi cyfiawnder i’r rheiny sy’n teimlo eu bod wedi cael cam.

“Mae’r bobl ifanc yma yn teimlo nad ydyn nhw wedi cael y cyfle i brofi eu hun. Maent wedi bod ar siwrne mor anodd ers mis Mawrth a mae llawer yn teimlo bod cyfleoedd bywyd wedi newid yn llwyr oherwydd system oedd tu allan i’w rheolaeth nhw. Mae’r bobl ifanc yma wedi siarad allan yn gryf a dwi’n gwrando. Mae’n rhaid i’r Llywodraeth a phryifysgolion wneud hefyd.

“Dwi hefyd yn galw ar y Llywodraeth i ystyried oedi cyhoeddi canlyniadau TGAU yr wythnos yma onibai eu bod nhw’n gwbl sicr eu bod nhw’ mynd i dderbyn ffydd y cyhoedd.

“Ry’ ni’n aml yn gofyn i bobl ifanc ddysgu o’r profiad pan fod rhywbeth yn mynd o’i le. Mae’n dyfiant meddyliol. Tu fewn i Lywodraeth, mae’n arwydd o arweiniad.”

Children's Commissioner for Wales – Exam results interview

It's clear that the system put in place to grade students has failed to give all pupils the results they deserve. I now see no alternative but to switch to teacher assessments to give individual justice to those young people who rightfully feel so aggrieved.Mae'n glir bod y system sydd wedi graddio myfyrwyr wedi methu i roi y canlyniadau cywir i bawb. Dydw i ddim yn gweld opsiwn arall nawr ond i fynd at asesiadau athrawon i roi cyfiawnder i bobl ifanc sydd yn teimlo eu bod nhw wedi eu methu yn llwyr.

Posted by Children's Commissioner for Wales on Monday, 17 August 2020