Comisiynydd Plant yn ymateb i ganlyniadau Lefel A

14 Awst 2020

“Mae’n glir bod pobl ifanc ddim yn teimlo’n hyderus o gwbl o’r system wnaeth arwain at eu graddau ddoe, ac mae hyn yn annerbyniol.

“Does dim ateb hawdd i ddatrys y sefyllfa yma. Mae yna berygl y byddai ateb sydyn yn medru newid un system sydd i weld yn anheg gydag un arall. Er hyn, mae’n rhaid i ba bynnag gam sy’n cael ei gymryd nesaf sicrhau bod gan bob person ifanc gyfle teg i gyrraedd ei lawn botensial. Fedrwn ni ddim gadael i’r pandemig ddinistrio uchelgais pobl ifanc, na chwaith eu hagwedd at ein system addysg.

“I sicrhau bod gan unigolion, boed nhw yn yr ysgol, coleg neu’n cael eu haddysgu rhywle arall, dylai dysgwyr sy’n teimlo eu bod nhw wedi cael canlyniadau anheg cael hyder yn y broses o apel a fydd yn edrych ar safbwynt unigol y dysgwr, ac y byddant yn dod allan o’r broses gyda’r gradd sy’n adlewyrchu eu proffil a disgwyliadau personol. Mae’n rhaid i’r broses fod yn hawdd, yn glir, yn hygyrch, ac mae’n bwysig bod y meini prawf ar gyfer cwyno ddim yn rhy gil. Mae angen i ni weld manylion y system apel sydd wedi ei ddiwygio ar frys.

“Ac i bobl ifanc yng Nghymru: plis peidiwch a cholli ffydd na gobaith yn ein system addysg. Bydda i’n gwneud popeth yn fy ngallu i wneud yn siwr bod unrhyw newidiadau yn deg i chi gyd.”