Rhaid i’r Bil Cwricwlwm ac Asesu fynd ymhellach i sicrhau hawliau a llesiant plant

8 Gorffennaf 2020

Wrth ymateb i’r cyhoeddiad ynghylch y Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), mae Comisiynydd Plant Cymru, yr Athro Sally Holland, yn dweud: 

Mae’r Bil hwn yn garreg filltir bwysig. Mae’n cyflwyno’r ymrwymiadau mae ein cenedl yn eu gwneud i bob plentyn a pherson ifanc ynghylch eu profiad o addysg. Mae’n addewid i bob plentyn yng Nghymru.

Yn sail i’r addewid hon mae’n rhaid cael ymrwymiad cryfach i wella bywydau plant. Amcan y Bil yma yw i rhoi i blant ystod eang a chyffrous o gyfleoedd i ddatblygu eu doniau a’u sgiliau yn llawn ond mae’n rhaid iddo ddiogelu anghenion a lles pennaf plant ar hyd eu haddysg.

O ganlyniad, rwy’n croesawu’n fawr gynnwys Iechyd a Llesiant fel maes dysgu a phrofiad. Mae hon yn un o sawl agwedd ar y Bil sy’n adlewyrchu proses ddiwygio sydd wedi cynnwys y proffesiwn addysg yng Nghymru a dangos ymrwymiad i ddatblygiad cyfannol plant.

Rwyf hefyd yn cymeradwyo bwriad y Llywodraeth i sicrhau deddfwriaeth fydd yn gofyn bod pob plentyn yn derbyn addysg Perthnasoedd a Rhywioldeb sy’n briodol i’w datblygiad. Mae hwn yn fesur pwysig i ddiogelu lles a hawliau pob person ifanc yng Nghymru.

Ond mae’n rhaid gwella’r Bil hwn mewn dwy ffordd yn ddioed:

  • Yn gyntaf, rhaid cynnwys dyletswydd sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ar y Bil Cwricwlwm ac Asesu. Rwy’n siomedig dros ben nad yw’r Llywodraeth wedi ymateb i’m galwadau parhaus am gynnwys y ddyletswydd hon, fydd yn diogelu anghenion tymor hir plant ac yn parhau y tu hwnt i unrhyw newidiadau a wneir i’r dogfennau Cwricwlwm sy’n gorwedd o dan y Bil;
  • Yn ail, mae angen i’r Bil hwn fynd ymhellach i ddiogelu llesiant plant trwy sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gwneud agwedd ysgol gyfan at lesiant a iechyd meddwl yn ofynnol.

Mae hefyd feysydd allweddol ar gyfer craffu ychwanegol. Nid yw’r Bil yn cyflwyno unrhyw ddarpariaethau newydd i werthuso a gwella arferion ysgolion. Rwy’n poeni fod y ddarpariaethau presennol wedi arwain at ddatblygiadau megis tynnu plant oddi ar y gofrestr yn answyddogol a datblygu amgylchedd sy’n troi’n llwyr o gwmpas arholiadau, lle gall pobl ifanc sydd angen cefnogaeth ychwanegol deimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu. Dyma pam fod cael dyletswydd ddyledus i CCUHP mor allweddol; dyw dull yn seiliedig ar hawliau plant i werthuso a gwella ysgolion ddim yn cyfateb i’r ymarferion yma.

Mae’r Bil yma yn cynnig y bydd rhai plant ond yn astudio rhannau o’r cwricwlwm newydd.

Bydd angen craffu’n ofalus  ar hyn er mwyn sicrhau bod y Bil hwn yn sicrhau darpariaeth hawliau perthnasol a theg i bob plentyn, gan gynnwys y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a’r rhai sy’n cael eu haddysgu rywle heblaw’r ysgol.

Mae’n hanfodol sicrhau bod y Bil hwn yn iawn, oherwydd er bod rhai ysgolion yng Nghymru yn arwain gwaith ardderchog yn gwreiddio hawliau dynol a llesiant plant ym mhopeth a wnânt, nid dyma brofiad pob plentyn. Yn ogystal â thynnu plant oddi ar y gofrestr yn answyddogol a gorbwyslais ar arholi, gall plant yng Nghymru brofi ynysu, camwahaniaethu, diffyg cyfranogiad a chefnogaeth annigonol i’w llesiant. Ni ddylai hawliau dynol plant a’u profiadau o addysg fod yn fater o hap a damwain fel hyn.

Byddaf yn dal i bwyso am y mesurau diogelu pwysig hyn ar gyfer hawliau dynol a llesiant plant wrth i mi barhau i graffu ar y Bil, a byddaf yn darparu ymateb llawn i’r ymchwiliad Cyfnod 1.