Datganiad y Comisiynydd ynglŷn â’i llythyr i undebau dysgu

14 Gorffennaf 2020

Yn ymateb i adborth i lythyr a ddanfonwyd yn ddiweddar at undebau addysg yng Nghymru, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru

“Dros nos, mae rhai athrawon, arweinwyr ysgol ac Undebau wedi ymateb yn grac i’r llythyr wnes i ysgrifennu cyn i Lywodraeth Cymru gyhoeddi bod sefydliadau addysg yn agor yn llawn mis Medi. Fe wnes i ysgrifennu’r llythyr wedi i mi glywed oddi wrth ddisgyblion, rhieni ac athrawon am eu pryderon o beth fyddai’n digwydd ym mis Medi, ac ar ôl penwythnos lle welwyd cynigion terfynol yn cael eu gosod ar y Lywodraeth. O fewn y llythyr hynny fe wnes i bwysleisio:

  • “…mae gweithwyr proffesiynol yn haeddu egwyl”
  • “Rwy’n gwybod bod addysg yng Nghymru yn llawn gweithwyr proffesiynol ymroddedig ac arloesol sy’n chwarae rôl hanfodol bwysig ym mywydau plant.”
  • “Rwyf wedi cymeradwyo’n gyhoeddus ymateb y proffesiwn addysg i effaith gychwynnol y pandemig, pryd y bu arweinwyr ysgol yn addasu diben ysgolion ac yn sicrhau bod y rhai mwyaf bregus yn cael eu cefnogi.”

“Ar yr un diwrnod fe wnes i ysgrifennu at y Gweinidog Addysg yn gofyn iddi gyhoeddi: “yn ddioed eich disgwyliadau o ran darpariaeth ysgolion yn nhymor yr hydref, fel bod modd i arweinwyr ysgol gynllunio’u darpariaeth” oherwydd fe wnes i gydnabod y pwysau ar arweinwyr ysgolion i greu cynlluniau mewn amgylchedd oedd yn newid yn gyflym.

“Rwy’n parhau i fod yn hynod o ddiolchgar i benaethiaid, athrawon a chynorthwywyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i warchod lles plant yn ystod y cyfnod clo. Fe fydden ni byth am awgrymu bod athrawon yn cael eu gwadu rhag egwyl. Bwriad y llythyr oedd sicrhau fod popeth yn ei le er mwyn sicrhau fod cymaint o blant â phosibl yn medru dychwelyd i addysg llawn amser mis Medi.

“Mae canlyniadau ein harolwg ‘Coronafeirws a Fi’ yn tynnu sylw at bryderon plant a phobl ifanc am gwympo nôl gyda’u haddysg. Mae’n amlwg fod yna rhai plant heb dderbyn addysg am gyfnod estynedig a dwi’n gwybod bod yna nifer o blant a’u teuluoedd ac athrawon am ddychwelyd er mwyn dal fyny. Mae yna rhai grwpiau penodol o blant sydd efallai wedi colli allan yn enwedig, gan gynnwys plant sydd yn byw mewn tlodi a phlant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Mi fyddai’n esgeulus ohonof i petaswn ni ddim fel Comisiynydd Plant yn tynnu sylw at y ffaith bod angen mwyafu’r cyfleoedd i blant gael mynediad i’w hawliau dynol.

“Hoffwn hefyd dynnu sylw at gynnwys llythyr arall anfonais at bob undeb ym mis Mai 2020 yn dilyn adroddiadau yn y wasg fod ysgolion yn ail-agor yn Lloegr. Nodais bwysigrwydd bod holl aelodau cymunedau ysgolion yn teimlo’n ddiogel a’r ffaith bod y penderfyniad o ail-agor ysgolion yn un cymhleth ac anodd a bod rhaid i’r penderfyniadau hynny cael eu llywio gan wybodaeth iechyd cyhoeddus. Fe wnes i gynnig fy nghefnogaeth fel rhan o’r trafodaethau oedd yn mynd ymlaen a gofyn i gopi gael ei rannu gyda phob aelod.

“Diolch i’r Undebau, athrawon ac arweinwyr addysg sydd wedi gweithio’n adeiladol gyda fy swyddfa dros y misoedd diwethaf. Dwi’n mawr obeithio y medrwn barhau i gael trafodaethau cadarn er mwyn gwarchod yr hyn sydd yn y pendraw yn y fantol yma: addysg plant yng Nghymru.”