Comisiynydd yn ymateb i gyhoeddiad ynglŷn ag ysgolion, colegau a sefydliadau addysg yn dychwelyd ym mis Medi

9 Gorffennaf 2020

Yn ymateb i gyhoeddiad y Gweinidog Addysg am ddychwelyd i ysgolion, colegau a lleoliadau addysg ym mis Medi, dywedodd Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Dwi mor falch fod y Llywodraeth wedi ymateb mor bositif i alwadau i uchafu presenoldeb corfforol plant ar safleoedd addysg, ysgolion a cholegau mis Medi, yn enwedig fy ngalwad i osod isafswm disgwyliadau.

“Mae rhaid i’r canllawiau sydd ar fin eu cyhoeddi nodi sut mae cynnig darpariaeth ddiogel a chroesawgar mewn ysgolion a cholegau, heb osgoi risgiau’n ormodol, a thrwy wneud hynny sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion llesiant a chymdeithasol plant a’u diogelwch corfforol. Dwi’n mawr obeithio y bydd y Llywodraeth hefyd yn parhau i rannu’r negeseuon o gyngor gwyddonol i dawelu meddyliau er mwyn sicrhau fod teuluoedd a’u plant yn teimlo fel eu bod yn cael eu cefnogi’n iawn i ddychwelyd mis Medi.

“Mae trafnidiaeth yn parhau i fod yn sialens ac fe fyddaf yn parhau i wthio ar y Llywodraeth i sicrhau fod canllawiau clir i alluogi plant, awdurdodau lleol, rheiny sy’n darparu trafnidiaeth, ysgolion a cholegau fedru cynllunio’n iawn ar gyfer mis Medi.

“Heb os, mae’r cyfnod yma wedi rhoi pwysau aruthrol ar blant, eu teuluoedd a chymuned ysgol gyfan. Dwi’n mawr obeithio bod yr eglurdeb a’r buddsoddiad sylweddol yma yn hwb i bawb sy’n cyfrannu at addysg ein plant – yn enwedig i blant a phobl ifanc.

“Ni all y dychweliad hwn ddigwydd oni bai bod pob un ohonom ledled Cymru yn parhau i ddilyn yr holl gyngor iechyd cyhoeddus. Dwi’n apelio i bawb yng Nghymru i gadw hyn yn y cof dros yr wythnosau nesaf, er mwyn sicrhau dychwelyd llawn i sefydliadau addysg ym mis Medi.”