Comisiynydd yn ymateb i adroddiad Arolygaeth Prawf Ei Mawrhydi am Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Caerdydd

2 Gorffennaf 2020

Yn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Arolygaeth Prawf Ei Mawrhydi am Wasanaeth Troseddau Ieuenctid Caerdydd, fe ddywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae’n annerbyniol fod pob agwedd o wasanaeth sydd yno i ddiogelu a chefnogi rhai o’n plant a phobl ifanc mwyaf bregus yn ffaelu. Dwi’n poeni fod plant wedi colli allan ar gyfleoedd i dderbyn cefnogaeth effeithiol oherwydd bylchau yn y gwasanaethu, yn enwedig cefnogaeth gofal iechyd a chefnogaeth lleferydd ac iaith.

“Mae angen gwelliannau ar draws pob gwasanaeth sydd ynghlwm â gwasanaethau Troseddau Ieuenctid y brifddinas. Fe fyddaf yn ysgrifennu at Fwrdd Rheoli Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid Caerdydd er mwyn derbyn sicrwydd fod diogelwch a lles rheiny sydd yn eu gofal yn cael eu gwarchod ac i dderbyn sicrwydd ynghylch unrhyw gynllun gweithredu sydd wrth waith i newid pethau. Fe fyddaf hefyd yn ysgrifennu at Heddlu De Cymru am hyfforddiant parhaus Swyddogion yr Heddlu sydd ynghlwm â’r Gwasanaeth ac fe fyddai’n codi fy mhryderon yn uniongyrchol gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro am y diffyg darpariaeth iechyd digonol i’r plant bregus yma.

“Unwaith yn rhagor dwi mewn sefyllfa lle bydd rhaid ysgrifennu at Fwrdd Cyfiawnder Ieuenctid Cymru, fel y corf sy’n gyfrifol am gyfiawnder ieuenctid Cymru, er mwyn sefydlu sut yn union cafodd y sefyllfa yma ei adael i ddatblygu dros nifer o flynyddoedd a pha gynlluniau sydd ganddynt i gefnogi a monitro’r ymateb i’r adolygiad negyddol iawn yma.”