“Mae’n rhaid i ni gydweithio nawr i ddymchwel y rhwystrau sy’n rhwystro ein plant rhag dysgu ac athrawon rhag dysgu.

19 Mehefin 2020

Yn ymateb i ymchwil diweddar cyhoeddwyd gan UCL ar brofiadau plant o ddysgu o adref a’r datblygiadau ddoe sy’n taflu amheuon am ba hyd y bydd rhai ysgolion yn agor ym mis Gorffennaf, dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Mae’n rhaid i ni gydweithio nawr i ddymchwel y rhwystrau sy’n rhwystro ein plant rhag dysgu ac athrawon rhag dysgu.

“Mae addysg yn hawl dynol sylfaenol i bob plentyn yng Nghymru. Ry’n ni’n gweld o dystiolaeth – anecdotaidd ac sydd wedi’i gyhoeddi – ac o farn bron i 24000 o blant a phobl ifanc ry’ ni wedi casglu bod y pandemic wedi, heb os, effeithio ar addysg ein plant.

“Ar ôl cyfnod neilltuol, lle ry’ ni wedi llwyddo fel gwlad i agor ysbytai maes ac fel poblogaeth wedi derbyn newidiadau syfrdanol i’n bywydau bob dydd, dwi’n rhwystredig gweld cyn lleied o hyblygrwydd o amgylch pethau megis contractau gwyliau wrth i ni drafod a chynllunio addysg ein plant. Dwi hefyd yn poeni am yr anghysondeb ynghylch y gefnogaeth sy’n cael ei gynnig i blant i addysgu o adref a faint o amser y bydd rhai yn ei wario yn yr ysgol dros yr wythnosau nesaf.

“Heb os, mae’r rhan fwyaf o arweinwyr ysgol wedi wynebu’r cyfnod mwyaf heriol o’u gyrfa. Dros y tri mis diwethaf rydyn ni wedi gweld ysgolion yn cau’n annisgwyl, rhai yn ail-agor fel hybiau gofal, llawer yn cynnig pecynnau o ddysgu i ddisgyblion ac ambell un yn cofleidio dulliau newydd o ddysgu. Er hyn, mae’n glir fod llawer o blant yn colli allan ar eu haddysg. Fe fydd llawer yn ei gweld hi’n anodd dysgu’n annibynnol am wahanol resymau ac mae’n glir o’r hyn sy’n ein cyrraedd ni yn y swyddfa wrth rieni fod y gefnogaeth a’r dulliau o fewn ysgolion yn amrywio.

“Mae’r wythnosau nesaf yn rhai tyngedfennol ac os na wnawn ni ddefnyddio’r amser yn adeiladol i ffocysu meddyliau ar beth sydd angen newid, mae yna berygl mawr fod y diffyg gweithredu yn mynd i gael effaith hirdymor ar ein plant.

“Mae’n glir nad yw’r sefyllfa gydag adeiladau ysgol yn mynd i newid yn fuan; fe fydd yna gyfyngiadau mewn lle mis Medi. Ond, ar ôl 13 wythnos, mae’n rhaid i’r dull o addysgu ein plant addasu. Mae ein Llywodraeth wedi gwario miliynau ar blatfform digidol, Hwb, sydd â rhagoriaeth ryngwladol, ac mae yna ymgais (amherfaith hyd yn hyn) i ddarparu dyfeisiadau digidol i’n plant; ond fel mae adroddiad UCL yn nodi, mae’r profiad o ymgysylltu’n ddigidol yn rhywbeth anghyffredin i’n disgyblion o hyd. Nid yw pob disgybl chwaith yn derbyn adborth ar y gwaith sy’n cael ei gwblhau.

  • Rydyn ni wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi canllawiau hyblyg i alluogi dysgwyr i fynychu mannau addysg a dwi nawr yn gofyn iddyn nhw osod disgwyliadau clir, cenedlaethol fel bod disgyblion, rhieni a staff yn deall beth sydd i ddisgwyl ohonynt dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

Ar lefel leol, rydyn ni wedi gweld ymarfer addawol yn ymddangos, ond dylai hwn fod yn drefn arferol, nid yn eithriad:

  • Rydyn ni angen ar frys i gydnabod yr heriau i ymrwymo disgyblion yn effeithiol i ddysgu o adref a darganfod ffyrdd creadigol i ddatrys y problemau.
  • Rydyn ni angen ar frys i amlhau i’r eithaf yr amser sy’n cael ei gynnig i ddisgyblion ddychwelyd i’r ysgol, datrys y problemau sy’n bodoli, megis yr her o redeg hybiau gofal plant law yn llaw â rhedeg ysgol.
  • Rydyn ni angen ar frys i sicrhau fod plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt i ddysgu.
  • Rydyn ni angen ar frys i sicrhau fod pobl ifanc ddim yn colli diddordeb yn llwyr o addysg yn ystod y broses yma.

“Mae’r wlad wedi dangos sut y medrwn ni ymateb yn gyflym i argyfwng yr NHS; mae’n amser nawr gwneud yr un peth ar gyfer yr argyfwng addysg yma.”