Cyhoeddi canlyniadau arolwg Coronafeirws a Fi

8 Mehefin 2020

Mae 54% o’r bobl ifanc 12-18 oed a gwblhaodd arolwg cenedlaethol ar y Coronafeirws yn pryderu y byddan nhw’n colli tir gyda’u gwaith ysgol.

Lawrlwythwch yr adroddiad Coronafeirws a Fi

Lawrlwythwch fersiwn byrrach gyda symbolau i helpu chi ddarllen

 

Gofynnwyd i blant a phobl ifanc Cymru am eu teimladau a’u meddyliau yn ystod pandemig y coronafeirws.

Canfu’r arolwg, er bod llawer o blant wedi mwynhau agweddau ar y cyfyngiadau symud – fel treulio amser gyda’r teulu a chael ymarfer corff bob dydd – eu bod nhw’n gweld eisiau eu ffrindiau, yn pryderu y gallai eu perthnasau ddal y feirws, ac yn poeni am golli tir yn eu dysgu.

Cwblhawyd yr arolwg gan 23,719 o blant a phobl ifanc 3-18 oed yng Nghymru. Casglwyd eu barn trwy arolwg gan Gomisiynydd Plant Cymru, Llywodraeth Cymru, Senedd Ieuenctid Cymru a Plant yng Nghymru. Mae’r arolwg yn torri tir newydd yn y Deyrnas Unedig ac yn ddull gweithredu mae UNICEF yn ei gymeradwyo fel enghraifft i’w dilyn gan wledydd ar draws y byd.

Er bod mwyafrif o blant a phobl ifanc Cymru (84%) a ymatebodd yn dweud eu bod yn teimlo’n ddiogel yn ystod y pandemig, un maes oedd yn destun pryder oedd colli addysg yn ystod y cyfnod gartref. Dywedodd 54% o’r bobl ifanc 12-18 oed eu bod nhw’n pryderu am golli tir gyda’u gwaith ysgol. Dim ond 11% o’r grŵp oed yma a gymerodd ran yn yr arolwg ddywedodd eu bod nhw ddim yn pryderu am eu haddysg. Dywedodd ychydig o dan hanner (48%) eu bod nhw ddim yn teimlo cymhelliad i wneud eu gwaith gartref, a dywedodd mwy na chwarter (27%), gan gynnwys rhai ag anghenion dysgu ychwanegol, eu bod nhw ddim yn deall y gwaith oedd yn cael ei anfon atyn nhw.

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru fod llawer o’r plant a’r bobl ifanc a gwblhaodd yr arolwg am gael mwy o gyswllt ar-lein wyneb yn wyneb gydag athrawon i’w helpu i ymdopi.

Yn y grwpiau oed iau, roedd 75% o’r plant Blwyddyn 6 am gael cyfle i ymweld â’u hysgol uwchradd cyn cychwyn ym mis Medi, ac roedd 76% yn dweud eu bod am gael cyfle i ffarwelio â’u hysgol gynradd cyn symud ymlaen i’r ysgol uwchradd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod canlyniadau’r arolwg wedi helpu i lywio’r penderfyniad i baratoi ysgolion yng Nghymru i roi cyfle i bob plentyn ‘Ddod i’r Ysgol, Dal Ati i Ddysgu, Paratoi ar gyfer yr Haf a mis Medi’.

Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Gweinidog Addysg Kirsty Williams y bydd pob ysgol yng Nghymru yn cychwyn y cyfnod nesaf ar 29 Mehefin. Bydd pob ysgol yn mynd ati’n raddol, ac yn rhannu grwpiau blwyddyn yn ddosbarthiadau llawer llai, fel bod amser penodol wedi’i neilltuo gydag athrawon ac aelodau eraill y dosbarth. Bydd hyn yn golygu bod plant yn cael amser yn y dosbarth, yn siarad wyneb yn wyneb â’u hathro, er mwyn helpu eu dysgu ar-lein gartref.

 

Dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Yn amlwg mae hwn wedi bod yn gyfnod anodd iawn i blant a theuluoedd ar draws y wlad. Rydyn ni wedi clywed barn oedolion ar y materion sy’n codi o’r pandemig yn gyson, ond tan nawr bu’n drawiadol bod barn plant yn absennol.

“Wrth i’r Llywodraeth symud ymlaen i’r cam nesaf ar gyfer ysgolion, mae’n bwysig iawn bod pryderon plant a phobl ifanc am eu gwaith ysgol yn cael eu lleddfu. Roedd llawer o’r rhai a gwblhaodd yr arolwg am gael mwy o addysgu ar-lein, wyneb yn wyneb.

“Mae’r proffesiwn addysg wedi gwneud ymdrech aruthrol i addasu ysgolion at ddiben gwahanol, darparu gofal plant mewn argyfwng a chadw mewn cysylltiad â’r plant. Mae’r athrawon hefyd wedi bod yn ddewr iawn yn gweithio mewn hybiau trwy’r argyfwng hwn. Ond mae’n amlwg bod llawer o blant a phobl ifanc eisiau mwy o gefnogaeth gyda’u dysgu gartref.

“Mae rhai ysgolion wedi bod yn rhoi cynnig ar yr amrywiaeth o offer mae Hwb yn eu cynnig i gadw eu cymuned ysgol mewn cysylltiad trwy alwadau fideo a gweithgareddau dysgu ar-lein i grwpiau. Mae hyn yn newid sut mae plant yn dysgu gartref ac yn golygu bod y plant a’r bobl ifanc yn cael peth rhyngweithio cymdeithasol ac adborth gan athro, sydd fel ei gilydd yn rhannau hanfodol o ddysgu.

“Mae’n gallu golygu hefyd bod plant yn derbyn gwybodaeth ar lafar, yn hytrach na dim ond trwy destun ysgrifenedig, sy’n gallu bod o help mawr i lawer o blant, gan gynnwys rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.”

 

Ychwanegodd Ffion-Hâf Davies, Aelod Senedd Ieuenctid Cymru dros Gwyr:

‘Mae’r holiadur yma wedi bod yn hynod o bwysig i bobl ifanc Cymru er mwyn iddyn nhw allu dweud eu dweud am yr amser digynsail yma. Wrth fod yn yr unig holiadur o’r fath yn y DU, mae wedi pwysleisio’r ymroddiad i ddiogelu hawliau pobl ifanc yma yng Nghymru er bod rhai ffigyrau, megis y nifer o bobl ifanc sy’n teimlo eu bod yn colli allan ar ei addysg, yn peri pryder. Gyda’r datblygiad bod pobl ifanc yn mynd nôl i ysgolion ar ddiwedd y mis mi fydd yr holiadur yma yn hynod o bwysig er mwyn i farn pobl ifanc gael ei ystyried, ac mi fydd yn atgof o sut mae bywydau pobl ifanc wedi cael ei effeithio gan y pandemic am flynyddoedd i ddod.”

 

Dywedodd Sian, sy’n 17 oed ac yn dod o Langollen:

“A dweud y gwir rydw i wedi bod fyny a lawr eitha tipyn gyda’r dysgu rydw i wedi bod yn gwneud ar-lein. Rai wythnosau mae gen i lwyth o aseiniadau, ond dim byd mewn wythnosau eraill! Yn bersonol, mae cael aseiniadau yn rhoi cymhelliad i fi, ac rydw i’n hoffi teimlo mod i’n rhoi hwb i fy haddysg. Ar y llaw arall, rydw i’n mwynhau darllen yn fwy eang pan fydd gen i ddim aseiniadau, achos dydw i byth fel arfer yn cael amser i wneud hynny!

“Mae bod heb ddysgu wyneb yn wyneb wedi bod yn anodd iawn i fi, ac mae’n sicr yn effeithio ar fy nghymhelliad. Rydw i’n hoffi gallu gofyn cwestiynau yn y dosbarth a thrafod y pethau rydyn ni’n eu dysgu gyda fy ffrindiau. Mae’n anodd teimlo bod ti’n gwneud y gwaith ar dy ben dy hun yn llwyr, heb safbwyntiau eraill i ddatblygu a herio fy marn fy hun!”

 

Dywedodd Saiba, sy’n 17 oed ac yn dod o Gaerdydd:

“Yn bersonol, rydw i wedi bod yn dysgu ar-lein ar gyfer fy ngwaith lefel-A, ac rwy’n credu, er bod yna strwythur i’r dydd, fel llawer o bobl fy oed i, mae bod heb rwtîn go iawn yn frwydr!

“Mae’n sicr yn cyfrannu at y diffyg cymhelliad, achos mae eistedd yn yr un lle o hyd i weithio yn mynd yn ddiflas ac yn unig mewn ffordd.”

 

Dywedodd Steffan, sy’n 14 oed ac yn dod o Geredigion:

“Rydw i wedi bod yn dysgu ar-lein ar hyd y cyfnod yma. Rydw i’n gallu gwneud y gwaith, ond rwy’n cael trafferth siarad â’r athrawon os bydd problem. Mae llai o ddysgu wyneb yn wyneb yn anodd, ond gallwch chi gadw i fynd. Mae hefyd yn fantais achos bod dim plant eraill yn gallu torri ar draws y wers. Mae fy ysgol i’n fwy trefnus nawr nag oedden nhw ar y dechrau.”

 

Dywedodd David, sy’n 14 oed ac yn dod o Abertawe:

“Rydw i’n derbyn gwaith ar-lein, er bod dim cysondeb o ran sut, ble a pha mor aml mae’n dod. Mae rhai adrannau’n defnyddio Google Classrooms, rhai yn defnyddio Microsoft Teams, a rhai yn defnyddio e-bost. Mae rhai athrawon yn anfon gwaith ar yr adeg pan fyddai ein gwers arferol (yn ôl yr amserlen), ac eraill yn anfon gwaith bob wythnos neu bythefnos i’w orffen erbyn dydd Gwener, a’i farcio erbyn dydd Llun – dyna’r ffordd rydw i’n ei hoffi orau, achos mae’n rhoi cyfle i fi reoli fy amser fy hun. Mae’n anodd weithiau heb athro i esbonio’r gwaith wyneb yn wyneb, ond rydw i’n deall bod y cyfnod yma’n anodd i bawb, a bod pobl yn gweithio yn y ffordd orau gallan nhw. Ar nodyn cadarnhaol, mae’r cyfnod yma wedi rhoi cyfle i fi fod yn fwy creadigol a chreu gwaith fyddwn i ddim wedi’i wneud yn yr ysgol.”

 

Dywedodd y Comisiynydd hefyd fod llawer o blant wedi mwynhau agweddau ar y cyfyngiadau symud.

“Trwy’r arolwg yma rydyn ni wedi gallu clywed gymaint mae llawer o blant a phobl ifanc yn gweld eisiau eu ffrindiau, eu pryder y gallai perthnasau farw o’r feirws a’u pryder am eu dysgu, ond mae llawer wedi cael pleser annisgwyl yn y newidiadau dramatig i’w trefn ddyddiol.

“Mae llawer o benderfyniadau polisi anodd i’w gwneud mewn perthynas â’r Coronafeirws, ond bydd y canlyniadau hyn yn helpu’r Llywodraeth i gymryd stoc o’r holl faterion sy’n bwysig i blant wrth i ni symud ymlaen trwy’r sefyllfa hon.”

 

Dywedodd Julie Morgan, Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Mae pandemig y coronafeirws wedi newid bywydau pawb ohonom, ac mae hynny’n wir am ein plant a’n pobl ifanc hefyd. Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni’n clywed eu pryderon a beth sydd ar eu meddyliau er mwyn iddyn nhw fedru dylanwadu’n uniongyrchol ar bolisi’r Llywodraeth.

“Mae’r arolwg hwn, sydd wedi cael ei gymeradwyo gan UNICEF fel model da i’w ddilyn gan wledydd ar draws y byd, wedi cael ei hyrwyddo trwy eu rhwydwaith ac wedi helpu i ddylanwadu ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru i ddod â mwy o blant yn ôl i mewn i’r ysgolion o 29 Mehefin.

“Dywedodd y mwyafrif o’r plant eu bod yn pryderu am golli cyfle i gael addysg. Rydyn ni wedi gwrando ar eu barn a gweithredu ar sail hynny.

“Rydw i’n falch bod y rhan fwyaf ohonoch chi wedi dweud eich bod chi’n teimlo’n ddiogel, ond rwy’n gwybod bod dweud wrth rywun am eich pryderon yn gallu bod yn anodd. Mae yna bobl sy’n gallu helpu – os byddwch chi angen siarad â rhywun, gallwch chi ffonio Childline am ddim ar 08001111 neu linell gymorth MEIC ar 08088023456.

“Hoffwn i ddiolch i bob un ohonoch chi a gymerodd ran yn yr arolwg.”

 

Rhagor o opsiynau ar-lein

Roedd y sylwadau gafodd eu cynnwys yn yr arolwg yn dangos bod plant ledled Cymru am gael mwy o sesiynau rhyngweithiol gydag athrawon ac amrywiaeth o ffyrdd i ddysgu ar-lein.

Dywedodd un ferch 13 oed o ganol de Cymru:

“Hoffwn i weld mwy o gefnogaeth gan athrawon i wneud gwersi trwy blatfform fel zoom, i gadw fy addysg i fynd yn hytrach na dim ond gosod gwaith.”

A dywedodd merch 11 oed o ogledd Cymru y byddai hi’n hoffi,

‘Galwad ffôn neu fideo gan fy athro. Rydw i’n gweld isie nhw.’

 

Rhwystrau i ddysgu

Canfu’r arolwg fod heriau penodol sy’n effeithio ar grwpiau o blant a phobl ifanc yn gallu ymwneud â chael mynediad at ddyfeisiau electronig, a phwysau gartref.

Dywedodd un ymatebydd, merch 16 oed o ganolbarth Cymru:

“Mae’n straen fawr gorfod dysgu dy hunan, a does gen i ddim laptop na wifi da gartre, sy’n anodd iawn i fi fel myfyriwr lefel A.”

Dywedodd merch 17 oed o dde-ddwyrain Cymru ei fod yn anodd ymdopi gydag un ddyfais yn unig:

“Mae Dysgu Gartref yn anodd gyda rhieni sy’n weithwyr hanfodol a/neu sydd ddim yn sirad Saesneg yn dda iawn. Mae angen i fi ofalu am fy chwaer fach drwy’r dydd ac esbonio’r taflenni gwaith mae ei hathrawon wedi eu hanfon ati, ac mae’n anodd gwneud hynny i gyd wrth rannu un ddyfais rhwng pawb ohonon ni.”

Cododd plant ag anghenion dysgu ychwanegol hefyd heriau penodol.

Dywedodd bachgen 12 oed o orllewin Cymru sydd â dyslecsia:

“Mae’r gwaith ysgol yn anodd iawn i fi wneud, achos mod i’n ddyslecsig, ac mae popeth wedi’i ysgrifennu, sy’n anodd i fi ddarllen.”

Dywedodd merch 12 oed o ogledd Cymru:

“Mae gen i ASD, ac rydw i’n hoffi rwtîn. Mae strwythur i’r diwrnod ysgol, a dydw i ddim yn hoffi peidio bod yn yr ysgol – maen nhw’n helpu fi gyda’r dysgu”

 

Manteision?

Canfu’r arolwg fod gan lawer o blant a phobl ifanc brofiadau cadarnhaol o’r argyfwng.

Soniodd rhai am gael rhyddhad o bwysau cymdeithasol a iechyd blaenorol, fel gweithredu fel gofalwr am aelodau eraill o’r teulu, anawsterau iechyd meddwl a bwlio.

Mae eraill wedi cael pleser mawr o ddysgu sgiliau newydd a mwynhau’r awyr agored yn yr ardd ac wrth wneud ymarfer corff dyddiol.

Soniodd llawer o blant eu bod wedi mwynhau treulio mwy o amser gyda’r teulu.

Dywedodd Sally Holland:

“Mae’r cyfnod dwys ac annisgwyl hwn o dreulio sawl mis gartref, gyda chynifer o rieni naill ai ar ffyrlo neu’n gweithio gartref, yn sicr wedi creu tensiynau a rhoi pwysau ar rai teuluoedd.

“Serch hynny, soniodd llawer iawn o’r plant a ymatebodd i’n harolwg am bleserau torri ar eu trefn ddyddiol brysur arferol, gyda theuluoedd yn chwarae, yn bwyta, yn ymarfer corff ac yn dysgu gyda’i gilydd lawer mwy nag fel arfer.

“Dylai hyn wneud i ni feddwl am sut rydyn ni’n trefnu bywydau plant ac oedolion ar hyn o bryd. Gallai mwy o weithio hyblyg a lleihau cymudo trwy wneud mwy o waith gartref arwain at fwy o amser i deuluoedd ei dreulio gyda’i gilydd.”

 

Aelodau’r Panel Ymgynghorol yn lleisio’u barn

Rhannodd Aelodau Panel Ymgynghorol Pobl Ifanc y Comisiynydd eu barn eu profiadau o ‘lockdown’. Dywedodd Adam, sy’n 12 mlwydd oed,

“Rydw i yn gwneud dysgu ar-lein, mae yr athrawon yn rhoi gyd o’r offer ar-lein ac mae nhw yn trio ein gorau i sicrhau bod ni’n cyfforddus gwneud gwaith adref. Un problem ydy, dydy nhw ddim yn rhoi yr gwaith fynu pan mae nhw yn dweud mae nhw yn mynd i gwneud o. Mae hynyn gallu bod yn dipyn bach yn annifyr, ond mae o yn iawn. Rydw i yn methu yr dysgu wynb i wyneb oherwydd ar-lein, dydw i ddim yn deallt esboniad yr athrawon oherwydd dydy nhw ddim yna i esbonio fel wyneb i wyneb. Teimlaf bod yna gostwng mewn fy cymhelliant oherwydd dydw I ddim yn cael ei dysgu wyneb i wyneb.”