Comisiynydd yn ymateb i ganllawiau ail-agor ysgolion Llywodraeth Cymru

10 Mehefin 2020

Yn ymateb i ganllawiau newydd Llywodraeth Cymru ar ail-agor adeiladau ysgolion yn ym mis Mehefin 2020, croesawodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, mwy o eglurhad ar sut allai ysgolion groesawi blant yn ôl cyn gwyliau’r haf. Fe wnaeth i groesawi’n fawr y pwyslais ar les disgyblion, ond fe wnaeth alw am fwy o gefnogaeth i ddysgu adref. Dywedodd:

“Dylai heddiw fod yn ddiwrnod lle ry’ ni’n trafod sut all ein gwasanaethau addysg gynnig y profiad addysgu gorau posibl i blant ledled Cymru, oherwydd bydd y dull o addysgu ein plant yn edrych cwbl wahanol dros y misoedd sydd i ddod. Does dim amheuaeth fod disgyblion angen mwy o gefnogaeth – ry’ ni wedi gweld hynny yn ein harolwg o bron i 24,000 o blant – a does dim amheuaeth fod yr argyfwng wedi atgyfnerthu’r anghydraddoldebau sydd yn bodoli’n barod cyn i’n hysgolion gau i ran fwyaf o ddisgyblion. Mi ddylen ni fod yn pryderu’n fawr heddi am y plant hynny sydd heb dderbyn yn llawn eu hawl i addysg, efallai oherwydd diffyg mynediad i adnoddau adref, anableddau neu anghenion dysgu, neu oherwydd rieni sy’n jyglo gwaith a dysgu eu plant..

“Mae’n ddealladwy y bydd rai rhieni a rhai plant yn poeni am ddychwelyd yn gorfforol i adeiliad yr ysgol mis yma. Beth dwi’n croesawi yw’r hyblygrwydd mae’r Gweinidog wedi cynnig i deuluoedd i wneud y penderfyniad sydd orau i’w teulu nhw. Dwi yn poeni wrth ein bod ni’n trafod y pwnc pwysig o iechyd a diogelwch, fod anghenion ehangach plant ar goll o’r drafodaeth. Mae’n rhaid cofio fod lles plant yn rhan annatod o iechyd plant hefyd, ac mi fydden ni’n annog ein bod ni’n sicrhau fod ysgolion yn lle croesawgar a fydd yn meithrin plant wrth iddyn nhw ddychwelyd.

“Mae plant wedi adnabod eu hun eu bod nhw’n colli allan ar agweddau cymdeithasol o fod yn yr ysgol ac mae gweithwyr proffesiynol yn codi pryderon am golli’r agwedd o ddiogelu plant mae ysgolion yn eu cynnig. Mae hyd yn oed y ddau agwedd yma ar ben eu hun yn cadarnhau i mi na fedrwn ni barhau fel yr ydym wedi bod yn gweithredu a bod rhaid darganfod modd o gynnig cyfle i bob plentyn gael mwy o gysylltiad gyda’u hysgolion a’u hathrawon.

“Er mae’r ffocws heddiw ar adeiladau ysgolion, mae’n glir y bydd canran helaeth o addysg ein plant y tymor yma, a’r tymhorau sydd i ddilyn, yn digwydd o adref oherwydd yr angen i gyfyngu’r nifer o ddisgyblion mewn adeiladau ysgolion a hefyd oherwydd y bydd rhai plant ddim yn medru mynychu o gwbl oherwydd rhesymau eraill gan gynnwys iechyd. Mae yna angen brys i ymateb i bryderon plant o’n holiadur cenedlaethol a gwella’r gefnogaeth sydd ar gael ar gyfer dysgu o adref.

“Fe wna i ail-adrodd yma: mae’n rhaid i’r ffocws fod ar sut allwn ni gynnig y profiad addysgu gorau posibl i’n plant, lle bynnag y maen nhw, dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf.

“Dyma’r hyn hoffem weld yn digwydd nesaf:

  • Hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn cyfathrebu’n uniongyrchol gyda phlant a rhieni am yr hyn ddylen nhw ddisgwyl pan yn yr ysgol neu’n cael eu haddysgu adref. Fe ddylai fod disgwyliad lleiaf o’r gefnogaeth ddylai fod yn cael ei gynnig i bob disgybl, boed bynnag eu sefyllfa.
  • Hoffwn weld awdurdodau lleol yn sicrhau fod asesiadau risg o gwmpas adeiladau ysgolion yn ail-agor yn ystyried lles plant yn ogystal â risg corfforol y feirws.
  • Hoffwn weld consortia addysg yn cynnig arweinyddiaeth ar hyfforddi a chefnogaeth i athrawon er mwyn sicrhau eu bod yn hyderus yn defnyddio’r holl offer sydd ar gael iddynt i gefnogi dysgu o adref a’u bod yn ymwybodol o ganllawiau cenedlaethol.
  • Hoffwn weld arweinwyr ysgol sicrhau fod pob disgybl yn derbyn cefnogaeth ragweithiol gyda dysgu o adref, drwy’r defnydd o offer sy’n bodoli’n barod gan gynnwys gwersi byw ar y we.
  • Hoffwn weld disgyblion yn derbyn eu hawl i addysg, yn yr ysgol neu adref. Mae angen negeseuon clir arnynt o’r hyn ddylent ddisgwyl ynghylch y gefnogaeth gyda’u haddysg a’u lles.”