Coronafeirws – Dylai rhieni parhau i gael help meddygol ar gyfer eu plant

23 Ebrill 2020

Gallai rhai plant fod mewn perygl oherwydd amharodrwydd rhieni i geisio cymorth meddygol, neu gymorth i fagu plant yn ystod epidemig y Coronafeirws, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd yr Athro Sally Holland, y comisiyndd plant, ei fod yn bwysig nad oedd rhieni’n gadael i’r Coronafeirws effeithio ar eu penderfyniadau yng nghyswllt gofyn am help:

“Rwy’n deall yn iawn pam gallai rhieni deimlo’n amharod i droi at eu Meddyg Teulu neu ysbyty yn y sefyllfa bresennol. Gallen nhw deimlo eu bod yn rhoi eu plant neu eu hunain mewn perygl, neu efallai eu bod yn teimlo y bydden nhw’n ychwanegu at faich timau meddygol sydd eisoes o dan bwysau â rhywbeth dibwys.

“Ond gallai’r amharodrwydd hwn olygu nad yw plant yn cael y cymorth meddygol mae arnyn nhw ei angen ar gyfer afiechydon a allai fod yn ddifrifol, a byddai hynny’n bendant yn gorbwyso’r risg o adael y tŷ a mynd i’r ysbyty.

“Hoffwn i annog pob rhiant i geisio cymorth neu gyngor meddygol ar gyfer yr un materion a fyddai wedi peri iddyn nhw droi at eu meddyg neu’r ysbyty lleol cyn epidemig y coronafeirws.

“Ar gyfer materion eraill fel cymorth ychwanegol os ydyn nhw’n cael trafferth ymdopi gartre, mae angen i deuluoedd wybod bod gwasanaethau cymdeithasol eu hawdurdod lleol yn sicr yn dal i redeg, ac yn dal yno i roi’r gefnogaeth angenrheidiol iddyn nhw.”

Gofal Iechyd

Dywedodd ymgynghorydd pediatrig yn Ysbyty Plant Cymru fod modd peidio â sylwi ar gyflyrau fel llid yr ymennydd a sepsis, a allai fygwth bywyd, os bydd rhieni’n cadw eu plant draw oddi wrth ysbytai.

Dywedodd Dr Jennifer Evans:

“Ar y cyfan mae COVID yn cael effaith ysgafnach o lawer ar blant, a bydd plant yn parhau i ddioddef o afiechydon eraill.

“Rydyn ni’n gwybod bod nifer sylweddol is o blant yn dod i adrannau Plant – yn ein hadran ni mae hyn yn ffactor o hyd at 75%, o gymharu â’r adeg hon y llynedd. Ffigur bras yw hwn, ond mae wedi’i seilio ar y 3 wythnos diwethaf, o gymharu â Mawrth/Ebrill y llynedd. Mae’r patrwm hwn i’w weld ar draws y Deyrnas Unedig.

“Rydyn ni’n pryderu y gallai cyflyrau eraill lle mae angen triniaeth ar frys, gan gynnwys llid yr ymennydd a sepsis, gael eu colli, ac rydym am sicrhau rhieni bod adrannau plant ar agor ac yn ddiogel.

“Rydyn ni hefyd am sicrhau rhieni y bydd un rhiant neu ofalwr yn gallu aros gyda’r plentyn ar hyd yr amser os deuan nhw i’r ysbyty.

“Ac yn olaf rydyn ni am bwysleisio bod angen mynd â babanod am eu brechiadau arferol pan fyddan nhw’n cael eu galw – dydyn ni ddim am weld achosion pellach o heintiau yn y dyfodol os oes modd osgoi hynny – ac mae perygl y gallai hynny ddigwydd os na chadwn ni’n cyfraddau imiwneiddio’n uchel.”

Ychwanegodd Dr Giri Shankar, Cyfarwyddwr Argyfwng yn ymateb i achosion Novel Coronavirus (COVID-19) yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae’n bwysig fod gwasanaethau iechyd allweddol yn aros ar agor i’r rheiny sydd eu hangen fwyaf. Pan yn mynychu’r gwasanaethau yma mae’n allweddol eich bod yn dilyn cymaint â phosibl y rheolau o amgylch cadw pellter cymdeithasol a gwarchod eich iechyd chi a iechyd eich teulu, wrth i chi sicrhau eu bod yn derbyn y gofal a’r gefnogaeth sydd angen arnynt.”

Gwasanaethau cymdeithasol

Rhybuddiodd y Comisiynydd hefyd y gallai gostyngiad yn nifer yr atgyfeiriadau i’r gwasanaethau cymdeithasol olygu bod plant ledled Cymru ddim yn cael y gefnogaeth angenrheidiol.

“Mae gwasanaethau cymorth i deuluoedd a gwasanaethau iechyd meddwl i blant yn dal ar gael, er eu bod wedi gorfod cael hyd i ffyrdd newydd o gefnogi teuluoedd. Os yw teuluoedd yn cael trafferth wrth fagu plant neu gyda pherthnasoedd teuluol, dylen nhw gael eu sicrhau bod cymorth ar gael iddyn nhw.

“Ar ben hynny, os bydd unrhyw aelod o’r cyhoedd yn pryderu am ddiogelwch plentyn yn eu cymuned, dylen nhw drafod y pryderon hyn gyda’u hawdurdod lleol, yr NSPCC neu’r heddlu.”

Dywedodd Marian Parry Hughes, cadeirydd Grŵp Penaethiaid Gwasanaethau Plant Cymru Gyfan, sy’n cynnwys penaethiaid gwasanaethau plant yr holl awdurdodau lleol, fod mwyafrif awdurdodau lleol Cymru yn sôn am ostyngiad yn yr atgyfeiriadau diogelu, ac roedd hi’n amcangyfrif bod gostyngiad o 50% wedi bod yn yr holl atgyfeiriadau yn ei hawdurdod ei hun, Gwynedd, o gymharu â’r un cyfnod y llynedd. Roedd hyn yn cynnwys diogelu yn ogystal ag amrywiaeth eang o gymorth a chefnogaeth.

Ychwanegodd:

“Ers dechrau’r cyfnod hwn o gadw pellter cymdeithasol a hunan-ynysu, mae Gofal Cymdeithasol Plant wedi gorfod addasu i ffordd newydd, wahanol o weithio. Rydyn ni’n ymwybodol iawn o’r risg y gallai rhai materion diogelu beidio â dod at sylw ein gwasanaethau oherwydd bod plant yn cael llai o gysylltiad â’u hysgolion a’r asiantaethau eraill sydd fel arfer yn gweithio gyda theuluoedd.

“Oherwydd y gostyngiad cyffredinol yn nifer yr atgyfeiriadau i’r Gwasanaethau Plant ar hyn o bryd hoffwn eich sicrhau bod Gwasanaethau Plant Awdurdodau Lleol yng Nghymru yn ‘gweithredu fel arfer’ yng nghyswllt materion diogelu.

“Mae hynny’n golygu y bydden ni’n ymateb yn yr un ffordd ag arfer i unrhyw adroddiadau am niwed i blentyn neu berson ifanc neu bryder yn eu cylch, a byddwn yn sicrhau bod ein hymateb yn rhoi eu diogelwch a’u lles yn gyntaf. Mae’n hanfodol felly bod unrhyw un sy’n pryderu yn gwybod bod help a chefnogaeth ar gael, a’u bod yn gallu cysylltu â’r Awdurdod Lleol gyda’u pryderon.”

DIWEDD