Comisiynydd yn ymateb i ddiswyddiad pennaeth Ysgol Rhuthun

3 Chwefror 2020

Dywedodd Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Rwy’n falch fod Cyngor Rheoli’r ysgol wedi gweithredu’n bendant dros y penwythnos. Dwi’n disgwyl mai prif ffocws nawr fydd sicrhau fod argymhellion tyngedfennol arolygiaethau Cymru yn cael eu gweithredu heb oedi; mae hyn yn cynnwys adolygu effeithiolrwydd y Cyngor Rheoli ei hun.

“Beth sy’n fwyaf trawiadol am yr achos yma yw pwysigrwydd gwrando ar blant a phobl ifanc. Mae’r materion yma wedi codi yn sgil pobl ifanc yn siarad allan. Rwy’n gobeithio eu bod yn teimlo fod pobl wedi gwrando arnynt a bod pethau yn mynd i newid nawr yn sgil eu dewrder.

“Fe fydda i’n cadw golwg agos ar y cynnydd ac yn cymell fod Llywodraeth Cymru yn symud heb unrhyw oedi i sicrhau fod rheoleiddiadau yn ddigonol, i sicrhau fod pob disgybl, lle bynnag y maent yn derbyn eu haddysg, yn ddiogel.”

DIWEDD