Comisiynydd yn ymateb i ddatblygiadau yn Ysgol Ruthin, Sir Ddinbych

24 Ionawr 2020

Yn ymateb i ddatblygiadau yn Ysgol Ruthin, Sir Ddinbych, dywedodd Yr Athro Sally Holland:

Rydyn ni’n ymwybodol o’r pryderon sydd wedi cael eu hadrodd yn y wasg yr wythnos hon ac wedi sicrhau mai ein prif ffocws ni oedd sicrhau diogelwch disgyblion yr ysgol. Rydyn ni’n monitro’n agos ymchwiliadau awdurdodau perthnasol. Yn y cyfamser, os yw rhywun yn chwilio am gyngor neu gymorth, mi fydden ni’n argymell nhw i gysylltu gyda fy ngwasanaeth Ymchwiliadau a Chyngor yn rhad ac am ddim. Mae’r gwasanaeth wedi’i sefydlu i gynnig cyngor a chymorth annibynnol i blant a phobl ifanc, rhieni / gofalwyr a phobl broffesiynol, gan gynnwys rhai sydd am chwythu’r chwiban.