Comisiynydd yn ymateb i honiadau hanesyddol o gamdrin plant yn rhywiol mewn ysgol yng Nghymru

26 Mehefin 2019

“Dwi wedi cael sioc a dwi’n drist o glywed am yr honiadau difrifol yma heddiw a dwi’n annog unrhyw un sydd â gwybodaeth berthnasol i gysylltu â Heddlu De Cymru, sy’n ymchwilio’r mater.

“Mae dioddefwyr o gam-drin hanesyddol yn medru teimlo cywilydd, neu’n rhy ofnus i siarad am y peth. Dwi am atgoffa nhw nad oes unrhyw esgus yn bodoli am gam-drin plant a does byth bai ar ddioddefwyr. Mae’n bwysig gwrando arnyn nhw a rhoi’r gefnogaeth briodol.

“Mae’r rheiny sydd wedi dioddef cam-driniaeth hanesyddol hefyd yn gallu teimlo nad oes dim y gall unhrywun i wneud os yw’r troseddwr wedi marw. Ond, mae’n holl bwysig hysbysu. Mae angen i ni glywed y profiadau hynny i helpu iachâu dioddefwyr ond hefyd i ni ddeall sut wnaeth y cam-drin ddigwydd fel bod camau priodol yn medru cael eu cymryd i gadw plant yn ddiogel yn y dyfodol.

“Rwyf am argymell i unrhyw un sydd â phryderon neu wedi dioddef o gam-driniaeth rhywiol fel plentyn i gysylltu â phrosiect Gwirionedd yr Ymwchiliad Annibynnol i Gam-rdin Plant yn Rhywiol (IICSA) sy’n annog dioddefwyr a goroeswyr i rannu eu profiadau er mwyn ceisio helpu I’w rwystro yn y dyfodol.

“Dwi hefyd am atgoffa pawb sy’n gweithio gyda phlant yng Nghymru am fodolaeth fy swyddfa – ry’ ni yma i wrando am bryderon sydd fallai’n bodoli am ddiogelwch plant a phobl ifanc – dwi’n berson rhagnodedig (prescribed whilstleblower), sy’n golygu os oes rhywun yn pryderu oherwydd bod ganddynt amheuon ymghylch camarfer, perygl neu risg yn y gweithle sy’n effeitio ar hawliau a lles plant yng Nghymru, gallwch chi wneud datgeliad i ni.

“Yn sgil datblygiadau heddiw, fe fyddaf yn edrych am sicrwydd wrth yr ysgol am eu trefniadau diogelu plant ac yn gofyn iddyn nhw fod yn gwb glir gyda disgyblion presenol a’u rhieni am eu gweithdrefnau sydd yno i ddiogelu plant. Fe fyddaf hefyd yn ysgrifennu at yr awdurdod lleol am fwy o wybodaeth am eu hymchwiliad mewnol a’r bwrdd diogelu lleol am eu rôl hwythau yn hyn i gyd.

“Oes oes unrhywun yn pryderu am ddiogelwch plentyn heddiw neu fod ganddynt wybodaeth berthnasol i’r ymchwiliad hwn, yna cysylltwch â Heddlu De Cymru ar 101.”