Angen ‘diwygio’ cynlluniau i drechu tlodi plant

5 Mawrth 2019

Mae angen ‘diwygio’ dull Cymru o ymdrin â thlodi plant, yn ôl Comisiynydd Plant Cymru.

Mae’r Athro Sally Holland wedi galw ar Lywodraeth Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol wrth fynd i’r afael â’r mater hwn, a chyhoeddi ‘Cynllun Cyflawni’ newydd ar gyfer Tlodi Plant, yn nodi sut bydd y Llywodraeth yn ei chrynswth yn rhoi sylw i’r caledi ariannol mae teuluoedd yn ei wynebu.

Mewn adroddiad a gyhoeddwyd heddiw (4 Mawrth), sy’n cymryd i ystyriaeth farn cannoedd o blant a rhieni ledled Cymru, mae hi wedi amlinellu sawl cam ymarferol y gallai Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac ysgolion eu cymryd i helpu i amddiffyn y plant a’r bobl ifanc mwyaf agored i niwed rhag effaith tlodi.

Mae Strategaeth Tlodi Plant Llywodraeth Cymru, a gafodd ei diweddaru ddiwethaf yn 2015, yn cyflwyno amcanion hirdymor cyfredol y Llywodraeth, sy’n cynnwys ‘gwella’r canlyniadau i’r tlotaf’ a ‘mynd i’r afael â’r premiwm tlodi’.

Ond mae’r Comisiynydd Plant wedi dweud bod angen i’r Llywodraeth edrych yn fanylach ar y newidiadau ymarferol ‘a fydd yn helpu teuluoedd yn eu sefyllfa bresennol’.

Dywedodd y dylai Llywodraeth Cymru lunio Cynllun Cyflawni newydd ar gyfer Tlodi Plant, a chanolbwyntio ar gamau pendant, mesuradwy i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i blant sy’n byw mewn tlodi.

Dywedodd yr Athro Sally Holland:

“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi gwrando ar blant, pobl ifanc, rhieni a gweithwyr proffesiynol o bob rhan o Gymru. Mae’n amlwg bod llawer ddim yn cael eu hanghenion sylfaenol. Mae plant a phobl ifanc wedi dweud wrthyn ni eu bod nhw’n llwglyd yn yr ysgol, bod eu teuluoedd yn cael trafferth fforddio’r wisg a’r offer mae arnyn nhw eu hangen ar gyfer yr ysgol, eu bod nhw’n methu fforddio cynnyrch hylendid, eu bod nhw’n colli cyfleoedd i gymdeithasu a chymryd rhan mewn gweithgareddau, a bod ganddyn nhw ansawdd bywyd, llesiant a hunan-ddelwedd gwaelach.

“Mae gan Lywodraeth Cymru Strategaeth Tlodi Plant sy’n amlinellu ei dyheadau hirdymor, ond ar hyn o bryd does dim cynllun clir i ddweud sut maen nhw’n mynd i ymdrin â’r materion mae plant yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Yn rhy aml rwy’n gweld adrannau unigol y Llywodraeth yn ymateb i sefyllfaoedd ac yn lansio mentrau newydd sydd heb eu cydgysylltu, heb unrhyw ymdrechion i adolygu effeithiolrwydd.

“Mae’n wir dweud mai San Steffan sy’n gyfrifol am lawer o’r pwysau sydd ar deuluoedd yng Nghymru: y problemau cysylltiedig â Chredyd Cynhwysol er enghraifft. Ond y gwir amdani yw bod Llywodraeth Cymru yn medru gwneud sawl penderfyniad, a bod llawer mwy y gallen nhw fod yn ei wneud i helpu teuluoedd gyda’u sefyllfa nawr.

“Dyna pam rydw i eisiau i’r Llywodraeth lunio Cynllun Cyflawni newydd ar gyfer Tlodi Plant. Gallai’r cynllun newydd fodoli ochr yn ochr â fersiwn ddiwygiedig o’u Strategaeth Tlodi Plant, ond tra byddai’r Strategaeth yn gyffredinol ac yn weddol amhenodol, byddai’r Cynllun Cyflawni newydd ar gyfer Tlodi Plant yn cynnwys camau pendant, mesuradwy i wneud gwahaniaeth i deuluoedd ar unwaith. Nawr mae angen help ar blentyn sy’n rhy llwglyd i ddysgu, nid ymhen sawl blwyddyn.”

Dywedodd Sean O’Neill, Cyfarwyddwr Polisi Plant yng Nghymru, a Chadeirydd Rhwydwaith Dileu Tlodi Plant Cymru:

“Mae tlodi plant yng Nghymru yn dal ar lefel ystyfnig o uchel, a rhagwelir y bydd yn cynyddu’n sylweddol yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod, fydd yn golygu bod llawer mwy o blant a’u teuluoedd yn cael trafferth i dalu am gostau ac anghenion sylfaenol beunyddiol. Mae’r rhagolygon yn arbennig o ddigysur, ac yn awr, yn fwy nag erioed, mae rhaid i Lywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu, â’r pwerau sydd ganddi, i gyflwyno cynllun sy’n mynd ati ar frys i roi cymorth nawr i blant sydd mewn trafferthion oherwydd tlodi”.

Yn ei hadroddiad, Siarter ar gyfer Newid, mae’r Comisiynydd Plant yn gwneud sawl argymhelliad i Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys:

  • Gwneud mwy o blant yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim
  • Rhoi mynediad i fwy o blant i gynlluniau Gwyliau Llwglyd
  • Gwneud mwy o deuluoedd yn gymwys i dderbyn grant i’w wario ar gostau ysgol fel gwisg ac offer
  • Sicrhau bod polisïau gwisg ysgol ledled Cymru yn fforddiadwy, yn hyblyg, ac yn deg

Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu camau y gall awdurdodau lleol ac ysgolion eu cymryd i helpu i gyfyngu ar y costau i deuluoedd.

Ochr yn ochr â’r adroddiad, mae’r Comisiynydd Plant wedi cyhoeddi set o adnoddau i helpu ysgolion i ystyried effaith eu polisïau cyfredol ar sefyllfa ariannol teuluoedd a chynllunio newidiadau ar y cyd â phlant yn eu hysgol.

Costau’r diwrnod ysgol

Yn ôl y Comisiynydd Plant, un o’r pryderon ariannol mwyaf cyffredin roedd rhieni a phobl ifanc yn ei godi oedd costau’r diwrnod ysgol.

Roedd hyn yn cynnwys cost offer, cinio ysgol, teithiau ysgol, a chostau untro eraill fel lluniau ysgol a digwyddiadau gwisg ffansi.

Mae’r adroddiad hefyd yn rhoi’r bai ar bolisïau gwisg ysgol ‘llym’ am roi mwy o bwysau ar deuluoedd sy’n cael trafferth ymdopi, ac yn honni y gallai’r rheolau mae rhai ysgolion yn mynnu cadw atynt olygu bod teuluoedd yn talu £100 y flwyddyn yn ychwanegol am bob plentyn.

Mae’r adroddiad hefyd yn canmol mentrau fel y cynllun ailgylchu gwisg ysgol ar draws Sir Ddinbych, ac yn galw am ddarparu’r rhain ledled Cymru.

Mae cynllun ailgylchu gwisg ysgol Sir Ddinbych, sy’n gweithio gyda Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych, yn darparu gwisgoedd ysgol wedi’u hailgylchu mewn canolfannau cymunedol a thrwy siopau dros dro. Un o sawl menter sy’n cael ei chynnig yw’r cyfle i rieni brynu siaced ffurfiol am £15, a derbyn y £15 yn ôl pan gaiff y siaced ei dychwelyd er mwyn iddyn nhw brynu’r maint nesaf i fyny.

Yn 2017/18, bu’r cynllun yn helpu 900 o blant gyda’u gwisg ysgol, a chafodd 300 o deuluoedd fanylion cynghori pellach.

Dywedodd Lesley Powell, Prif Swyddog Gweithredol Cyngor ar Bopeth Sir Ddinbych:

“Cawson ni’r syniad ar gyfer y cynllun ar ôl gweld un o’n cleientiaid yn cael trafferth darparu gwisg ysgol i’w phlant.

“Mae’r cynllun wedi datblygu ac ehangu ar draws y Sir mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, fel ein bod ni’n gallu darparu gwisgoedd ysgol o ansawdd da wedi’u hailgylchu i blant, a hefyd roi cyngor a chefnogaeth i deuluoedd i wella’u gwydnwch ariannol a’u llesiant.”

Dywedodd y Cynghorydd Huw Hilditch-Roberts, Aelod Arweiniol y Cabinet dros Blant, Pobl Ifanc, Addysg a’r Iaith Gymraeg:

“Roedden ni wrth ein bodd yn cael gweithio mewn partneriaeth â Chyngor ar Bopeth Sir Ddinbych yn y modd arloesol hwn, ac rydyn ni’r un mor falch ei fod wedi cael ei ddyfynnu’n enghraifft o arfer gorau.

“Mae wedi bod yn aruthrol o lwyddiannus oherwydd ymrwymiad gwirfoddolwyr a haelioni pobl yn darparu gwisgoedd ysgol. Gall prynu gwisg ysgol fod yn gost fawr i lawer o deuluoedd, ac mae llawer o bobl bellach wedi gallu prynu gwisg am bris rhesymol, heb orfod torri’r banc.

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at fonitro llwyddiant menter eleni, gyda golwg ar estyn y cynllun i gymunedau eraill yn Sir Ddinbych yn y dyfodol”.

Ychwanegodd yr Athro Holland:

“Mae’n swnio fel paradocs, ond does dim modd i lawer o deuluoedd fforddio addysg am ddim.

“Mae teuluoedd yn wynebu galwadau am arian o bob cyfeiriad, a’r plant sy’n talu’r pris pan fydd eu rhieni’n methu cadw i fyny gyda’r costau.

“Os ydyn ni o ddifri ynghylch sicrhau sefyllfa fwy teg a rhoi cyfle cyfartal i bob plentyn ddysgu a thyfu, mae angen i Lywodraeth Cymru ddangos uchelgais wirioneddol a rhoi arweiniad go iawn wrth helpu’r miloedd o deuluoedd ledled Cymru sydd mewn trafferthion gwirioneddol.

“Pan gynigiodd ei hun yn arweinydd ar ei blaid, dywedodd Prif Weinidog Cymru y byddai taclo tlodi plant yn flaenoriaeth. Rwy’n croesawu hynny, ond rwy’n ddiamynedd i weld cynigion pendant ar ystyr hynny i blant a’u teuluoedd.

“Trwy wrando ar yr argymhellion rwyf wedi eu hamlinellu yn fy adroddiad, rwy’n hyderus y gall Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth gwirioneddol.”