Diffyg cefnogaeth i bobl ifanc gydag anableddau dysgu

11 Gorffennaf 2018

Mae dwy o gyfreithiau amlwg Llywodraeth Cymru yn methu i ddarparu’r gefnogaeth angenrheidiol i bobl ifanc ag anableddau dysgu, sy’n golygu eu bod yn pryderu am eu dyfodol, yn ôl adroddiad newydd.

Mae rhieni hefyd yn cael eu gadael heb gefnogaeth, gyda llawer ohonynt yn gorfod cydlynu’r gwasanaethau mae eu plant yn eu defnyddio eu hunain, heb help digonol gan wasanaethau cyhoeddus.

Mae’r adroddiad – ‘Peidiwch â dal yn ôl’ – gan Gomisiynydd Plant Cymru yn edrych ar brofiadau pobl ifanc ag anableddau dysgu wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion, proses y cyfeirir ati’n aml fel ‘pontio i oedolaeth’.

I lawer, gall y broses honno olygu newid yn yr help maen nhw’n ei dderbyn, sy’n gallu achosi dryswch a rhwystredigaeth os na ddaw’r gefnogaeth a’r wybodaeth gywir i law, yn ôl y Comisiynydd Plant.

Y gyfraith

O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, dylai pobl ifanc y mae arnynt angen gofal a chefnogaeth fod yn rhan o lunio’r gofal maen nhw’n ei dderbyn, a chael mynediad hwylus i’r help a’r wybodaeth iawn.

Mae’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar wasanaethau i gydweithio er mwyn rhoi gofal sy’n diwallu eu hanghenion unigol i bobl.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn dweud y dylai cyrff gydweithio i ddarparu gwasanaeth hyblyg i bobl, sy’n gweithio iddyn nhw.

Canfyddiadau

Ond canfu’r adroddiad fod pobl ifanc a’u teuluoedd yn gallu cael trafferth sicrhau’r gefnogaeth mae arnyn nhw ei hangen, a’u bod yn aml yn cael eu gadael heb fawr ddim gwybodaeth ynghylch ble gallan nhw fynd i gael help.

Mae hefyd yn codi pryderon ynghylch ymwneud pobl ifanc â chynllunio’u pontio eu hunain; dywedodd 68% o’r bobl ifanc a holwyd am eu cynlluniau pontio eu bod nhw ddim yn teimlo iddynt fod yn rhan o’r broses o benderfynu pa fath o fywydau bydden nhw’n eu cael ar ôl cyrraedd 18 oed.

Roedd y rhieni’n pryderu hefyd y gallai diffyg cefnogaeth nawr arwain at ynysu cymdeithasol; dywedodd 83% o’r rhieni yn yr arolwg eu bod nhw’n pryderu y gallai eu plant gael eu hynysu’n gymdeithasol.

Dywedodd yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Rwy’n arbennig o siomedig, er gwaethaf deddfwriaeth gyfredol sy’n nodi y dylid gwrando ar farn plant a phobl ifanc, a’u cynnwys wrth gynllunio, nad oedd mwyafrif llethol y bobl ifanc yn teimlo bod hynny’n digwydd.

“Mae hefyd yn eglur o’r adroddiad nad yw rhieni a gofalwyr yn cael y gefnogaeth mae arnyn nhw ei hangen. Man lleiaf, mae angen iddyn nhw gael gwybodaeth glir ynghylch pa gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw a’u plant, a mynediad mwy hwylus i’r gwasanaethau y gallan nhw eu hawlio.

“Mae llawer o’r bobl ifanc, y rhieni a’r gweithwyr proffesiynol rydyn ni wedi cwrdd â nhw wedi dweud hefyd nad yw pobl ifanc yn cael digon o gefnogaeth i ddatblygu sgiliau bywyd, neu gyfleoedd i gael eu cefnogi i symud i gyflogaeth, sy’n golygu bod risg ynysu cymdeithasol yn cynyddu.”

‘Y cyfan rydw i eisiau yw ei bod hi’n cael bywyd hapus’

Dywedodd Derrick a Sian Ellis, y mae Microceffali ar eu mab Tomos, y gall fod yn anodd cael hyd i’r gefnogaeth gywir:

“Mae pryderon ynghylch pontio i Wasanaethau Oedolion oherwydd bod y broses ddim yn cael cyhoeddusrwydd, a does neb i gyfeirio pobl ag anawsterau dysgu i’r cyrchfan cywir.

“Flwyddyn nesa bydd e’n chwilio am ryw fath o leoliad, gwaith â chymorth, neu wirfoddoli. Mae gan y coleg swyddog pontio, ond mae hynny’n beth diweddar, felly dydyn ni ddim yn siŵr sut bydd yn gweithio. Rydyn ni’n eitha sicr mai ni fydd yn gorfod mynd ar ôl sefydliadau, gan obeithio y byddan nhw’n gallu helpu Tomos.”

“Yr allwedd yw dilyniant yn y gefnogaeth a throsglwyddo sydd wedi’i drefnu’n iawn, a hyd y gwyddon ni, dyw hynny ddim yn digwydd.”

Mae merch Janette Williams, Lucy, yn 17, ac mae Asperger’s arni:

“Roeddwn i’n pryderu sut byddai Lucy yn cael llwybr i mewn i gyflogaeth ac yn byw bywyd annibynnol. Fydda i ddim o gwmpas am byth, a’r cyfan rydw i eisiau yw ei bod hi’n cael bywyd hapus, llawn boddhad, ac yn cael cyfleoedd.

“Mae angen cefnogaeth ymarferol a gwybodaeth ar rieni i’w helpu i gefnogi eu plant a chyflawni’r canlyniadau gorau. Yn fy mhrofiad i doedd fawr ddim cefnogaeth yn yr Ysgol Uwchradd, ac roedd yr athrawon yn aml yn ofni cael sgwrs onest ynghylch galluoedd fy mhlentyn a’r opsiynau oedd ar gael iddi at y dyfodol. Fe adawon nhw ni heb unrhyw syniad beth gallai Lucy ei gyflawni, a beth oedd y cyfyngiadau posibl arni.”

Mae hi bellach yn mynd i ‘Dyfodol Deinamig/Dynamic Futures’, prosiect yng ngofal elusen yn Wrecsam sy’n cefnogi plant a theuluoedd yn ystod y broses bontio.

“Daeth ‘Dyfodol Deinamig’ ar yr union adeg gywir yn ei bywyd, er mwyn iddi gael cefnogaeth ac annibyniaeth oddi wrthyn ni. Fe wnaeth pethau syml fel dal y bws, trafod arian, a digwyddiadau cymdeithasol i gyd feithrin ei hyder, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am hynny.”

Ychwanegodd Lucy, sy’n 17:

“Rydw i’n meddwl mai un o’r pethau oedd yn fy mhoeni i fwyaf am y pontio i wasanaethau oedolion oedd y teithio i’r coleg a gwneud ffrindiau newydd, a doedd gen i ddim syniad mewn gwirionedd at bwy i droi am gefnogaeth.”

“Fe wnaeth creu ffrindiau yn y prosiect fy helpu i weld bod gan bobl eraill yr un problemau”

“Rydw i’n teimlo bod gen i ffrindiau da i siarad â nhw, ac rydw i wedi dod yn fwy annibynnol mewn bywyd trwy wybod sut mae defnyddio’r bws.”

Y gefnogaeth gywir

Mae ymgyrchwyr dros hawliau anabledd wedi ymuno â’r Comisiynydd Plant i alw ar wasanaethau i gydweithio er mwyn rhoi cefnogaeth well i bobl ifanc sy’n pontio i wasanaethau oedolion.

Dywedodd Wayne Crocker, cyfarwyddwr Mencap Cymru, elusen hawliau anabledd:

“Mae gwasanaethau pontio da, cydweithredol a pherson-ganolog yn hollbwysig i sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gefnogaeth angenrheidiol i fod yn weladwy yn eu cymunedau, a chael eu gwerthfawrogi yno.”

Dywedodd Rhian Davies, prif weithredwr Anabledd Cymru:

“Mae gan bobl ifanc sydd ag anawsterau dysgu hawl i fywyd sy’n rhoi boddhad, ac i gyflawni eu breuddwydion a’u nodau, yn union fel eu cymheiriaid sydd heb anabledd.

“Maen nhw’n dweud wrthyn ni eu bod nhw am fod yn rhan uniongyrchol o gynllunio ar gyfer eu dyfodol, a’u bod nhw wedi blino ar fynd ar raglenni hyfforddiant di-ddiwedd sydd ddim yn arwain i unman, heblaw am fwy o ynysu.

“Rhaid i Addysg, Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol roi sylw i’w lleisiau a’u cydlynu eu hunain yn well er mwyn creu a chefnogi cyfleoedd ystyrlon i fyw’n annibynnol.”

Ychwanegodd yr Athro Holland:

“Gall hwn fod yn gyfnod mor frawychus i bobl ifanc a’u teuluoedd. Mae angen iddo fod yn llawer mwy llyfn, cael ei gynllunio’n llawer gwell, ac mae angen i wasanaethau gydweithio er mwyn sicrhau bod y gofal a gynigir i bob teulu unigol yn diwallu eu hanghenion.

“Roedd y rhai a gafodd brofiadau da wedi bod yn rhan o’r broses, wedi teimlo eu bod yn cael cefnogaeth dda gan weithiwr proffesiynol arweiniol neu wasanaeth pontio penodol, ac yn aml roedd ganddyn nhw fynediad i ddarpariaeth ieuenctid-ganolog oedd yn helpu pobl ifanc i baratoi at oedolaeth ac ehangu eu rhwydweithiau cymdeithasol a chymunedol.

“Dylai’r profiadau cadarnhaol hyn fod yn norm, yn hytrach nag yn eithriad.

“Er fy mod i’n croesawu’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, bythefnos yn ôl, eu bod wedi sefydlu Grŵp Cynghori Gweinidogol newydd i wella gwasanaethau i bobl ag Anableddau Dysgu, mae’n hollbwysig eu bod yn rhoi sylw penodol, a hynny ar frys, i wella profiadau pobl ifanc wrth iddynt nesáu at oedolaeth.

“Mae peth deddfwriaeth allweddol yn ei lle eisoes. Y cam nesaf yw gwella’r dull o’i chyflwyno. Yn y cyfamser, mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu cymryd wrth ddatblygu’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru), a’r cwricwlwm newydd, fel bod pob person ifanc ag anableddau dysgu yn cael yr help mae arnyn nhw ei angen, a hynny ar yr adeg iawn.”