Angen i system iechyd meddwl sy’n methu pobl ifanc newid

26 Ebrill 2018

Yn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar wella gwasanaethau iechyd meddwl, dywedodd Yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Yn syml, dyw’r ddarpariaeth gofal iechyd meddwl ddim yn gweithio i bob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru. Mae gwasanaethau’n cael eu darparu’n rhy gaeth, ac mae llawer o bobl ifanc sydd angen cymorth, yn arbennig yn ystod cyfnodau cynharaf salwch meddwl, yn colli cyfle i gael y gofal angenrheidiol oherwydd eu bod nhw ddim yn bodloni meini prawf penodol. Mae’r adroddiad yn tanlinellu diffyg cefnogaeth i’r ‘canol coll’; y plant a phobl ifanc yn y cyfnodau cynnar o salwch meddwl.

“Mae angen i ni weld newid sylfaenol yn sut rydyn ni’n darparu gofal iechyd meddwl. Rwyf wedi dweud yn glir y dylai gwasanaethau ledled Cymru fod yn cydweithio i ddarparu gofal cynhwysfawr, hyblyg, sy’n darparu ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc, ble bynnag y maen nhw ar eu taith iechyd meddwl eu hunain. Rwyf mor falch bod y Pwyllgor wedi cydnabod hyn. Mae angen i blant a phobl ifanc fedru cael mynediad i gefnogaeth gyson ar hyd eu plentyndod; nid dim ond pan fyddan nhw’n ddigon sâl i gael diagnosis.

“Rydw i hefyd wedi galw am symud yn fwy tuag at ddatblygu ysgolion sy’n safleoedd rhagoriaeth ar gyfer cefnogaeth iechyd meddwl a llesiant, a hyfforddi mwy o bobl sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phobl ifanc i fedru cynnig cyngor a chymorth da i bob plentyn sydd angen hynny, ac rwy’n falch o weld hynny’n cael ei adlewyrchu yn adroddiad y pwyllgor. Mae angen i’r gwaith hwn cynnwys pob gwasanaeth perthnasol er mwyn cyfuno ac ehangu capisti.

“Mae angen hefyd i ni sicrhau bod dysgu am iechyd meddwl da, gwydnwch, a pherthnasoedd iach yn rhan bwysig o’r cwricwlwm newydd. Rydyn ni yng nghanol y broses o ddiwygio’n system addysg, a’n system iechyd meddwl i blant a’r glasoed. Rhaid i ni beidio â cholli’r cyfle hwn i gyfuno elfennau o bob un o’r rhain, a datblygu ymateb cynhwysfawr i anghenion iechyd meddwl ac emosiynol plant.

“Gweinidogion  Llywodraeth Cymru sydd â’r gallu i greu’r newid yma. Rhaid i ni symud i ffwrdd oddi wrth ynysu iechyd meddwl fel mater i’r GIG, neu ysgolion, neu awdurdodau lleol – dyw’r dull hwnnw o weithredu ddim yn gweithio, ac oni bai bod y Llywodraeth yn cydnabod hynny, mae perygl gwirioneddol y byddwn ni’n methu â darparu ar gyfer cenhedlaeth sydd mewn angen dybrid am gymorth.”

DIWEDD