Lleisiau plant anabl ar goll o gynllunio hygyrchedd

8 Mawrth 2018

Mae gormod o ddibyniaeth ar ysgolion unigol i gynllunio ar gyfer anghenion disgyblion ag anableddau corfforol ac nid oes digon yn cael ei gwneud gan lywodraethau lleol a chenedlaethol.

Dyma gasgliad adroddiad dilynol a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru, Sally Holland.

Canfu’r adroddiad mai dim ond un o 22 awdurdod lleol Cymru oedd yn ceisio barn pobl ifanc wrth ffurfio eu strategaeth hygyrchedd; dogfen sy’n nodi sut y bydd awdurdod yn gwella profiadau disgyblion anabl yn ei ysgolion.

Fodd bynnag, nid oedd yr awdurdod yn gallu dweud sut yr oedd wedi ymgynghori â phobl ifanc na sut roedd eu barn wedi llunio’r strategaeth.

Yn ôl y gyfraith (Deddf Cydraddoldeb 2010), mae angen i awdurdodau lleol hefyd sicrhau bod eu strategaeth yn cael ei gweithredu. Yn ôl yr adroddiad, roedd gan 18 awdurdod eu strategaethau ar waith.

Mae hygyrchedd y strategaethau eu hunain hefyd yn cael ei gwestiynu gan yr adroddiad; ni welodd swyddfa’r Comisiynydd ond dwy wedi eu cyhoeddi ar wefannau’r awdurdodau.

Meddai Sally Holland, y Comisiynydd Plant: “Rydyn ni wedi dod o hyd i arfer da iawn gan ysgolion unigol ond rwyf am i awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru chwarae rôl fwy rhagweithiol wrth alluogi disgyblion a’u teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus a chynorthwyo mwy o ddisgyblion ag anableddau i fynychu’r ysgol o’u dewis, gyda’u ffrindiau.

‘Yn benodol, mae’n siomedig iawn bod dim awdurdod lleol wedi medru dangos sut mae nhw wedi cynnwys plant a phobl ifanc mewn cynhyrchu ei strategaeth hygyrchedd.

‘Heb wrando ar blant a’u teuluoedd, mae’n anodd gweld sut gall awdurdodau lleol asesu’r ddarpariaeth mae ganddyn nhw ar hyn o bryd, neu i gynllunio gwelliannau.

‘Mae anghenion plant anabl llawer yn fwy na rampiau a rheiliau; yn aml mae materion sy’n unigryw i unigolion; i ddeall y rhain mae angen trafod gyda phlant a’u rhieni.

‘Os rydyn ni eisiau pob plentyn a pherson ifanc i lwyddo, mae angen rhoi’r pŵer iddynt i siapio’r amgylcheddau lle maen nhw’n dysgu.’

Mae’r adroddiad hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i adnewyddu ei arweiniad ‘Cynllunio i Gynyddu Mynediad i Ysgolion ar gyfer Disgyblion Anabl’, yn dyddio yn ôl i 2004. Mewn ymateb i adroddiad gwreiddiol swyddfa’r Comisiynydd, ymrwymodd y Llywodraeth i gyhoeddi’r fersiwn wedi’i hadnewyddu ym Mai 2017. Er gwaethaf yr addewid, nid yw’r canllawiau wedi eu diweddaru eto a bydd llawer o ddisgyblion wedi cychwyn ar eu taith ysgol neu wedi cael cyfnodau pontio i ysgolion newydd heb y canllawiau diwygiedig ar gyfer ysgolion ac awdurdodau lleol ar gael.

Mynegodd yr Athro Holland bryderon hefyd am y diffyg strategaethau ar gyfer gwella hygyrchedd i ysgolion oedd ar gael yn hawdd i’w gweld ar-lein.

‘Pan fydd plentyn yn defnyddio cadair olwyn, mae angen gwybodaeth dda arnyn nhw a’u teuluoedd am sut y byddant yn gallu cael mynediad i ysgolion lleol, ac unrhyw gynlluniau y mae’n rhaid i’r awdurdod lleol wella hyn.

‘Dylai awdurdodau lleol fod yn atebol i’r bobl ifanc a’r teuluoedd y maent yn eu gwasanaethu. Os nad yw strategaethau ar gael yn hawdd ar-lein, mae’n ei gwneud hi’n anodd i bobl weld y strategaethau hynny ac i rannu eu barn ar eu cynnwys.

‘Yn ddelfrydol, hoffwn i weld holl awdurdodau lleol Cymru yn creu’r dogfennau ar ôl gwrando ar blant a phobl ifanc anabl, ac wedyn i’w cyhoeddi mewn ffordd hygyrch.’

Ysgolion

Yn ogystal â’r ddyletswydd gyfreithiol ar awdurdodau i gyhoeddi strategaethau hygyrchedd, rhaid i ysgolion unigol hefyd gyhoeddi cynlluniau sy’n dangos sut y byddant yn darparu ar gyfer anghenion plant anabl.

Mae’r adroddiad yn cynnwys enghreifftiau gwahanol o sut mae ysgolion unigol wedi cwrdd â phlant a theuluoedd i ddeall eu hanghenion, ac yr effaith positif mae hyn wedi cael ar eu haddysg.

Mae Malin, sy’n 14 ac yn defnyddio cadair olwyn, yn mynychu ysgol Aberconwy yng Nghonwy. Mae e wedi siarad am y newidiadau mae ei ysgol wedi gwneud i wella ei fywyd ysgol.

‘Cyn dechrau yn yr ysgol cefais i a fy Mam cyfarfodydd gyda’r ysgol er mwyn esbonio fy anghenion, fel fy mod i’n medru mynychu’r ysgol yn annibynnol. Gwnaeth fy mhryderon lleihau achos roedd popeth wedi’i thrafod cyn dechrau.

‘Dwi’n gallu cyrraedd rhan fwyaf o fannau’r ysgol – yr unig lle oedd yn anodd ei chyrraedd yn wreiddiol oedd y bloc cerddoriaeth. Mae’r ardal cerddoriaeth nawr wedi cael ei symud fel fy mod i’n gallu cyrraedd pob ardal o’r ysgol. Os ydyn ni’n cael tripiau ysgol rydyn ni’n siarad am sut i’w rheoli yn y ffordd fwyaf effeithiol fel bod dim angen i fi colli mas mewn unrhyw ffordd a theimlo’n wahanol.

‘Mae’r ffaith fy mod i’n gallu defnyddio pob ardal yn yr ysgol yn gwneud i fi teimlo’n annibynnol; dwi ddim yn hoffi teimlo’n wahanol i blant eraill.’

Dywedodd Mr Ian Gerrard, Pennaeth ysgol Aberconwy:

‘Fel ysgol, ein blaenoriaeth yw bod cyfle i bob disgybl i gael addysg lawn ac i wneud yn siŵr bod dim plentyn yn cael eu cau allan o unrhyw weithgaredd.

‘Oherwydd ein perthynas gweithio agos gyda Malin a’i rhieni, rydyn ni wedi gallu gwneud newidiadau i wneud ei fywyd ysgol yn hygyrch a chynhwysol.

‘Rydyn ni wedi cyflwyno cyfleuster tŷ bach arbenigol mewn partneriaeth gyda Sodexo, mae gennyn ni desgiau gydag uchder sydd yn gallu cael eu haddasu mewn dosbarthiadau Malin i gyd, ac rydyn ni’n gadael digon o amser i Malin i symud yn rhydd rhwng adeiladau rhwng ei wersi, ac rydyn ni’n storio ei gadair olwyn iddo fe dros nos yn yr ysgol.

‘Rydyn ni’n credu gall pob disgybl cyrraedd ei botensial llawn os oes ganddyn nhw fynediad llawn i addysg.’

Dywedodd Immy, disgybl yn Whitchurch High yng Nghaerdydd, bod angen mwy o gefnogaeth i bobl ifanc anabl mewn ysgolion uwchradd.

‘Yn aml mae bwlch mewn cefnogaeth pan rydych chi’n mynd i ysgol uwchradd. Edrychais ar ysgol uwchradd arall i ddechrau, ond doeddwn i ddim yn gallu mynd oherwydd doedd hi ddim yn hygyrch neu’n addas i fi. Canlyniad hyn oedd doeddwn i ddim yn gallu mynd i’r ysgol gyda fy ffrindiau.

‘Nawr, mae gan fy ysgol uwchradd 6 person sy’n defnyddio cadair olwyn ac, er bod gennym ni anghenion gwahanol, mae’n dda i weld defnyddwyr cadair olwyn eraill yn yr ysgol.

‘Dwi’n meddwl dylai meithrinfeydd, ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd, colegau a gweithleoedd bod yn hygyrch i bob person mewn cadair olwyn.’

Dywedodd llefarydd o Whitchurch High bod yr ysgol wedi gwneud sawl newid yn y blynyddoedd diwethaf i wella profiad disgyblion anabl.

‘Rydyn ni wedi gwneud sawl newid i’r amgylchedd ysgol, yn cynnwys lifftiau newydd, rampiau newydd, ac iardiau ysgol gyfan yn cael eu codi i wella mynediad i ystafelloedd dosbarth.

‘Rydyn ni ar siwrnai lle bydden ni’n parhau i werthuso’r amgylchedd ysgol, gyda’n bwriad i greu ysgol lle does dim rhwystrau i ddysgwyr i gyrraedd eu potensial.’

Dywedodd Sally Holland dylai pob awdurdod lleol ac ysgol yng Nghymru blaenoriaethu gwrando ar brofiadau plant a phobl ifanc:

‘Mae’r esiamplau yn fy adroddiad yn dangos yr effaith positif gall cyfranogiad ystyrlon cael wrth ddatblygu cynlluniau a strategaethau. Gallen nhw fod yn ddogfennau sy’n galluogi ysgolion ac awdurdodau i gyflawni anghenion disgyblion mewn ffordd fwy effeithiol a darparu gwybodaeth hygyrch i blant a’u teuluoedd.