Comisiynydd: ‘Rhowch plant yr un amddiffyniad yn y gyfraith ag oedolion’

9 Ionawr 2018

Wrth ymateb i gynnig deddfwriaethol Llywodraeth Cymru i ddileu amddiffyniad cosb resymol, dywedodd Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru:

“Ar ddiwrnod fy mhenodi, fe ddywedais y byddwn i’n gweithio i roi’r un amddiffyniad i blant ag sydd gan oedolion o dan y gyfraith. Mae’r ymgynghoriad hwn, i mi, yn cynrychioli cam pwysig ymlaen yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i amddiffyn plant. Os caiff hyn ei dderbyn, bydd Cymru’n arwain y ffordd unwaith yn rhagor ym maes amddiffyn hawliau plant.

“Mae llawer o gamwybodaeth wedi bod yn mynd o gwmpas wrth drafod y pwnc hwn yn ystod y misoedd diwethaf. Dyma’r ffeithiau: nid nod Llywodraeth Cymru yw creu tramgwydd droseddol newydd. Nid nod Llywodraeth Cymru yw troseddoli rhieni. Yr hyn mae’r Llywodraeth yn dymuno ei wneud yw sicrhau bod plant sy’n byw yng Nghymru yn cael yr un amddiffyniad ag oedolion. Nid yw taro neu smacio plentyn byth yn weithred gariadus neu ofalgar. Ni welaf unrhyw ddadleuon rhesymol yn erbyn nod yr ymgynghoriad hwn.

“Mae’r ymgynghoriad yn esbonio’n ofalus ac yn fanwl dystiolaeth yr ymchwil ynghylch effeithiau negyddol smacio, ac effaith gadarnhaol dulliau rhianta awdurdodol sydd ddim yn cynnwys cosb gorfforol.

“Rwy’n gwybod pa mor anodd mae rhianta’n gallu bod. Rwy’n fam i dri o blant fy hun, rwyf wedi wynebu’r sefyllfaoedd hynny sy’n llawn tensiwn, ac fel unrhyw riant arall, rwyf wedi teimlo ar brydiau fy mod wedi cyrraedd pen fy nhennyn. Yn y sefyllfaoedd hynny, y peth olaf roeddwn i am ei deimlo oedd bod y Llywodraeth nac unrhyw un arall yn dweud wrthyf fi sut i fagu fy mhlant. Rwy’n gwbl eglur bod mwy nag un ffordd gywir o fagu plant, ond mae gan y Llywodraeth rôl, sef darparu cyngor a chymorth y gall rhieni eu cyrchu pan fydd angen, a mynd ati’n amlwg i amddiffyn hawliau ei holl ddinasyddion, gan gynnwys plant. Ni fydd y cynnig newydd hwn yn golygu bod y Llywodraeth yn ymyrryd ym mywyd pob dydd teuluoedd, yn hytrach bydd yn cynnig i blant yr un amddiffyniad ag sydd gan oedolion, ac yn sicrhau na fydd y rhieni hynny sy’n hawlio ‘cosb resymol’ yn gallu amddiffyn eu gweithredoedd os bydd eu hachos ymosodiad cyffredin yn cyrraedd y llys.

“Fel cymdeithas bydden ni’n gwaredu petai oedolion diamddiffyn yn cael eu taro am gamymddwyn neu oherwydd eu bod mewn sefyllfa beryglus. Pam yn y byd bydden ni’n dewis amddiffyn sefyllfa fyddai’n golygu bod modd i blant gael eu cosbi yn yr un ffordd?

“Rwy’n gobeithio y bydd llawer o rieni a gofalwyr yn cymryd amser i ddarllen cynlluniau’r Llywodraeth fel eu bod yn cael eu sicrhau nad troi rhieni da yn droseddwyr sydd dan sylw yma, na chwaith ddweud wrth rieni sut mae magu eu plant, ond yn hytrach darparu’r un amddiffyniad i blant ag yr ydym ni’n ei ddarparu i oedolion yng Nghymru.”

Mae’r Comisiynydd wedi creu dogfen briffio manwl ar gynnig deddfwriaethol Llywodraeth i gael gwared o’r amddiffyniad o ‘gosb rhesymol’.