Comisiynydd yn ystyried defnyddio pwerau statudol

3o Tachwedd 2017

Wrth ymateb i ddatganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru mewn ymateb i’w hadroddiad blynyddol diweddaraf, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Sally Holland:

“Er fy mod i’n falch bod mwyafrif fy argymhellion i Lywodraeth Cymru yn fy Adroddiad Blynyddol wedi cael eu derbyn yn llwyr neu’n rhannol, mae eu hymateb mewn perthynas ag addysgu gartref yn fy ngadael heb ddewis ond ystyried defnyddio fy mhwerau statudol i adolygu camau gweithredu’r Llywodraeth.

“Ers dwy flynedd rwyf wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i’w gwneud yn ofynnol bod rhieni neu ofalwyr yn cofrestru eu bwriad i addysgu eu plant gartref, a bod plant yn cael eu gweld ac yn cael gwrandawiad gan weithiwr proffesiynol. Drwy wneud hynny gall awdurdodau lleol gynllunio i roi cefnogaeth ddigonol a phriodol i bob plentyn a’u teuluoedd yn eu hardal leol, a’i gwneud yn llai tebygol y bydd plentyn yn syrthio ‘o dan radar’ y gwasanaethau statuol.

“Mae Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol Cymru a gweithwyr proffesiynol, gan gynnwys Cymdeithasau’r Cyfarwyddwyr Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, i gyd yn cefnogi’r hyn rwy’n galw amdano. Er gwaethaf y cyfoeth hwn o dystiolaeth, mae’n debyg bod angen o hyd i Lywodraeth Cymru ‘…gael sicrwydd y byddai’r cynigion deddfwriaethol yn gymesur ac yn angenrheidiol’.

“Mae’n gymesur ac yn angenrheidiol bod pob plentyn yng Nghymru yn cael gwrandawiad ac yn cael eu clywed; mae’n gymesur ac yn angenrheidiol bod pob plentyn yng Nghymru yn cael lefel weddus o addysg; ac mae’n gymesur ac yn angenrheidiol bod Llywodraeth Cymru yn amddiffyn holl blant Cymru.

“Bydda i’n rhyddhau manylion pellach ynghylch fy ngham gweithredu nesaf yn y flwyddyn newydd.”

DIWEDD