Comisiynydd Plant yn galw ar Lywodraeth Cymru i newid ei chynnig gofal plant

9 Hydref 2017

Dylai pob plentyn tair a phedair oed yng Nghymru gael yr un cyfle i dderbyn gofal plant o ansawdd uchel, beth bynnag eu cefndir, yn ôl yr Athro Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru, sy’n cyhoeddi ei Hadroddiad Blynyddol heddiw (09 Hydref 2017).

Mae cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru o 30 awr o ofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn, ond ar gael i rieni sy’n gweithio, ond mae’r Comisiynydd yn poeni fod plant a’u rhieni sydd ddim yn gweithio yn cwympo tu ôl eu cyfoedion hyd yn oed yn fwy os ydyn nhw’n colli allan ar y ddarpariaeth yma.

Yn ôl y Millennium Cohort Study, mae plant o deuluoedd tlotaf yn barod tua 10 mis tu ôl i blant sy’n dod o gefndiroedd cyfoethocach o ran datblygiad pan yn cyrraedd tair oed.Mae’r Comisiynydd yn credu drwy sicrhau fod pob plentyn yn derbyn yr un cynnig o ofal plant o ansawdd uchel yn lleihau’r bwlch o ran parodrwydd i fynd i’r ysgol a sicrhau fod pob plentyn yn cael y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial.

Yma, mae’r Athro Holland yn esbonio mwy:

“Rwy’n sylweddoli mod i’n gofyn am rywbeth mentrus yma gan y Llywodraeth, gan fy mod i’n eithriadol ymwybodol ein bod ni’n byw mewn oes pan fo pob ceiniog yn cyfri. Ond rwy’n credu dylai’r Llywodraeth ail-feddwl ei chynnig gofal plant ac ystyried yr effeithiau tymor-hir y polisi yma ar y plant sydd angen y gefnogaeth fwyaf. Mae yna dystiolaeth glir bod buddsoddi mewn addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant ansawdd uchel yn gwneud gwahaniaeth arwyddocaol i gyfleoedd bywyd rheiny sy’n dod o gefndiroedd tlawd ac yn hyrwyddo symudedd cymdeithasol. Mae e hefyd yn arbed arian yn yr hir-dymor gan fod y rheiny sy’n derbyn cymorth yn gynnar yn mynd ymlaen i gyfrannu mwy i gymdeithas ac yn dibynnu ar lai o wasanaethau.

“Wrth gwrs, rwy’n croesawu’n bendant y bwriad i ehangu gofal plant am ddim, gan y bydd hynny’n cynorthwyo teuluoedd sy’n gweithio yn sylweddol gyda chostau gofal plant, gan gydnabod bod gan fwyafrif y plant sy’n byw mewn tlodi rhieni sy’n gweithio. Fodd bynnag, rydw i am osgoi sefyllfa lle mae plant rhieni sydd ddim yn gweithio yn colli allan, ac yn methu derbyn eu hawl i gyflawni hyd eithaf eu potensial.”

Mae’r adroddiad yn cydnabod y camau mawr mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol wedi cymryd mewn polisiau yn ymwneud â darpariaeth i bobl Ifanc sy’n gadael gofal, yn sgil adroddiad y Comisiynydd ‘Breuddwydion Cudd’, a gyhoeddwyd ar 1af o Fawrth 2017. Mae e hefyd yn manylu ar feysydd allweddol eraill ar gyfer gwelliant:

Addysgu gartref

Mae’r Comisiynydd yn galw unwaith eto am sefydlu cofrestr ar gyfer plant y dewisir eu haddysgu gartref, a bod y plant hynny’n cael eu gweld gan weithiwr proffesiynol yn achlysurol. Mae hyn yn dilyn pryderon nad yw nifer fach o blant o bosib yn derbyn yr addysg a’r gofal ddylen nhw yn y cartref.

Mabwysiadu

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal wedi codi pryderon gyda’r Comisiynydd oherwydd eu bod yn methu cadw mewn cysylltiad â’u brodyr a’u chwiorydd ar ôl mabwysiad. Mae pobl ifanc yn sôn am deimlo eu bod yn cael eu cosbi os nad yw cyswllt yn cael ei hybu. Mae’r Athro Holland yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod hawliau siblingiaid i gadw mewn cysylltiad yn cael eu hystyried yn llawn wrth gynllunio gofal mabwysiadu.

Mynediad plant Byddar a’u teuluoedd i Iaith Arwyddion Prydain (BSL)

Yn dilyn cyfarfodydd gyda rhieni sydd ddim yn Fyddar sydd wedi sôn am fethu cyfathrebu yn llawn â’u plant Byddar, a phlant Byddar eraill a’u teuluoedd sydd wedi mynegi pryder ynghylch diffyg darpariaeth a chefnogaeth iddyn nhw, mae’r Comisiynydd yn galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei rhoi ar waith, gan gynnwys cyfleoedd dysgu hygyrch a fforddiadwy ar gyfer BSL.

 Uchafbwyntiau gwaith y Comisiynydd eleni

  • Fe wnaethon ni ymgynghori â mwy na 2000 o blant a bron 300 o weithwyr proffesiynol ynghylch eu teimladau a’u profiadau o fwlio yng Nghymru.
  • Fe wnaethon ni lansio adroddiad ‘Breuddwydion Cudd’ ynghylch ymrwymiadau cymdeithas i ymadawyr gofal Cymru. Arweiniodd hynny at fuddsoddiad o £1m gan Lywodraeth Cymru tuag at fwrsariaeth ymadawyr gofal.
  • Fe wnaethon ni greu adnodd i hybu a dathlu perthnasoedd rhwng y cenedlaethau gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru, ac edrychwyd arno 9000 o weithiau o fewn y misoedd cyntaf ar Facebook.
  • Fe wnaethon ni ymgysylltu â 10,550 o blant a phobl ifanc o bob rhan o Gymru.
  • Fe wnaethon ni gyhoeddi ‘Y Ffordd Gywir: Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant yng Nghymru’. Mae sefydliadau sy’n cynnwys Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru ac Amgueddfa Cymru wedi ymrwymo i ddefnyddio dull gweithredu seiliedig ar hawliau plant wrth gynllunio a darparu gwasanaethau.
  • Fe wnaethon ni gynorthwyo 528 o achosion trwy wasanaethau cyngor a chymorth annibynnol y Comisiynydd, gan fynd i’r afael â materion sy’n amrywio o anghenion addysgol arbennig i gau canolfan chwaraeon.