Newyddion Llysgenhadon Cymunedol

7 Hydref 2014

Mewn bwletin newyddion arbennig, mae’n grŵp Llysgenhadon Cymunedol yn Adamsdown, Caerdydd, wedi esbonio pwysigrwydd hawliau plant yn eu hardal nhw.

Tanlinellodd y grŵp yr hawl i ddysgu, yr hawl i fyw bywyd heb gamdriniaeth, a phwysigrwydd cydraddoldeb.

Roedd hyd yn oed bwletin tywydd yn rhybuddio’r cyhoedd o fwg ar y stryd, llygredd yn llenwi aer y brifddinas, a pherygl o faw ci ar y llawr!