Digwyddiad i’r rhai sy’n gadael gofal 2014

8 Awst 2014

Cafodd ein trydydd digwyddiad blynyddol i’r Rhai sy’n Gadael Gofal ei gynnal fis diwetha ar ddiwrnod bendigedig o haf yng nghastell ysgubol Sain Dunwyd.

Daeth plant a phobl ifanc o bob rhan o Dde Cymru at ei gilydd i rannu eu profiadau o’r system ofal, i gwrdd ag eraill, ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau prynhawn llawn hwyl.

Roedd sesiwn y bore’n gyfle i rannu gwybodaeth; trafodaethau ar y pethau sy’n bwysig i bobl ifanc a sut gallai’r system ofal gael ei gwella.

Yn y prynhawn, gwnaeth y bobl ifanc (a’r staff!) yn fawr o’r heulwen trwy roi cynnig ar y wal ddringo, saethyddiaeth a chanŵio.

Cafodd y rhai oedd yn chwilio am ddiwedd mwy tawel i ddiwrnod prysur gyfle i ymlacio yn y gornel harddwch, lle gallent gael trin eu hewinedd, eu gwallt, neu gael tatŵ henna.

At ei gilydd, roedd y diwrnod yn llwyddiant ysgubol. Diolch i bawb oedd yn bresennol!