Digwyddiad Gogledd Cymru i blant sy’n gadael gofal

Llyn Tegid, cartref Gwersyll yr Urdd Glan Llyn, oedd lleoliad godidog ein digwyddiad i bobl sy’n gadael gofal eleni.

Fe wnaeth y bobl ifanc wnaeth fynychu wario’r bore yn rhannu profiadau, rhannu eu barn am y system ofal, dod i adnabod ei gilydd a chyfarfod gyda’r Comisiynydd Plant.

Wedi iddyn nhw gael cinio, fe wnaeth y bobl ifanc wario’r prynhawn yn cael hwyl ar y rhaffau uchel, yn bowlio deg a gweithio fel tîm ar y llyn!

Roedd hi’n ddiwrnod ffantastig. Diolch gogledd Cymru!