Comisiynydd Plant Cymru yn amau digonolrwydd gwasanaethau ieuenctid

Mae gwasanaethau ieuenctid Cymru yn haeddu cael eu gwerthfawrogi a’u cyfarwyddo â chefnogaeth strategol gadarn ar lefel genedlaethol a lleol. Dyma’r alwad gan Gomisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, wrth iddo gyhoeddi ei adroddiad a’i gyfrifon blynyddol heddiw (04 Hydref 2012).

Mae’r Comisiynydd o’r farn bod gwasanaethau ieuenctid Cymru yn chwarae rôl arwyddocaol ym mywydau llawer o bobl ifanc – maent yn darparu cyfleoedd i bobl ifanc, maent yn eu cefnogi yn ystod datblygiadau pwysig yn eu bywydau, ac yn eu hannog i ddatblygu gwybodaeth a sgiliau. I rai pobl ifanc, gweithiwr ieuenctid yw’r prif oedolyn y maent yn ymddiried ynddo y tu allan i’w teuluoedd ac i lawer, gweithiwr ieuenctid yw’r unig oedolyn y maent yn ymddiried ynddo.

Blaenoriaethau croes i’w gilydd

Mae’r Comisiynydd o’r farn bod cyllidebau sy’n crebachu a newidiadau ym meini prawf ffrydiau ariannu gwasanaethau plant a phobl ifanc yn bygwth gwthio gwasanaethau ieuenctid ledled Cymru i waelod y rhestr flaenoriaethau.

Mae’r materion a ddaeth i sylw’r Comisiynydd drwy gydol y flwyddyn yn awgrymu nad oes gan rai pobl ifanc yng Nghymru ffordd o fynd at wasanaethau ieuenctid o safon uchel, sy’n effeithio ar eu gallu i wireddu eu holl botensial a chyfrannu’n gadarnhaol at gymdeithas.

Peidiwch ag anghofio am bobl ifanc

Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn wynebu dyfodol o galedi ariannol. Ond, trwy roi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu perthynas â gweithwyr prosiect a’u cefnogi yn eu gweithgareddau cymdeithasol bydd ganddynt y cyfle gorau posibl i lwyddo.

Dywedodd Keith Towler, Comisiynydd Plant Cymru:

“Y cwestiwn rwy’n ei ofyn heddiw yw: a yw’n werth buddsoddi mewn pobl ifanc? Os ydym am iddyn nhw dyfu i fod yn oedolion ifanc sy’n parhau i gyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau, os ydym am iddyn nhw dyfu i fod yn rhieni sy’n gallu cefnogi’r genhedlaeth nesaf o blant i fod yn hapus ac yn iach, yna’r ateb syml yw ydy.

“Rwy’n cwrdd ag unigolion a grwpiau o bobl ifanc bron bob wythnos sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at eu cymunedau, boed hynny trwy wirfoddoli, trwy fod yn aelod o fforwm ieuenctid neu drwy fod yn faer ifanc. Dyma bobl ifanc sy’n gosod esiampl dda a nhw fydd arweinwyr y dyfodol a dylem oll eu cefnogi a’u gwerthfawrogi.

“Rwyf am weld ymrwymiad cenedlaethol i’r agenda hwn sy’n cydnabod gwerth gwaith ieuenctid a’r modd y gall helpu pobl ifanc i oresgyn y sialensiau y maent yn eu hwynebu, megis diffyg sgiliau a diweithdra’r ifanc.

“Yn rhy aml, dywed pobl ifanc ac ymarferwyr wrthyf bod gwasanaethau ieuenctid yn cael eu tanbrisio a’u boddi gan flaenoriaethau sy’n groes i’w gilydd. Ni ddylid ystyried gwasanaethau ieuenctid yn darged meddal. Rwy’n ymrwymo i ddarparu ffocws clir ar y mater hwn dros weddill fy nghyfnod yn Gomisiynydd.”

Ffigyrau allweddol

  • Mae pob person ifanc nad yw mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant yn costio tua £97,000 yn ystod ei fywyd, gan godi i £300,000 yn dibynnu ar y budd-daliadau y mae’n ei hawlio
  • Mae pob £1 a fuddsoddir mewn gwaith ieuenctid yn cynhyrchu gwerth £8 o weithgarwch gwirfoddol
  • Byddai prosiect sy’n darparu ystod gyflawn o wasanaethau ac yn cysylltu â 125 o bobl ifanc yr wythnos yn costio £75,000 y flwyddyn, neu £16 ar gyfer pob cyswllt.
  • Mae’n costio oddeutu £35,000 i gadw un person ifanc mewn sefydliad i droseddwyr ifanc

(ffigurau gan Gyngor Ieuenctid Caerdydd a’r Joseph Rowntree Foundation)

Gwaith arall a gyflawnwyd gan dîm y Comisiynydd

Mae’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol hefyd yn cynnwys prif feysydd eraill o waith a gyflawnwyd gan swyddfa’r Comisiynydd yn ystod y 12 mis diwethaf, gan gynnwys manylion adolygiad statudol cyntaf y Comisiynydd i wasanaethau eiriolaeth ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n agored i niwed. Mae hefyd yn cynnwys manylion ei gyngor a’i waith cymorth, lle bu achosion o’r meysydd canlynol:

  • gwasanaethau cymdeithasol, lle’r oedd y prif faterion yn ymwneud â lleoliadau maeth ac eiriolaeth;
  • addysgu, lle’r oedd y prif faterion yn ymwneud â chwynion ac anghenion addysgol arbennig; ac
  • iechyd, lle’r oedd y prif faterion yn ymwneud ag ariannu Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a’r Glasoed.

Gellir lawrlwytho’r adroddiad a’r cyfrifon blynyddol o www.complantcymru.org.uk neu ffonio 01792 765600 am gopi caled.

DIWEDD